71/72 Kingsway fly-through - YouTube

 

Fideo rhithiol o'r awyr newydd yn arddangos cynllun swyddfeydd nodedig Abertawe.

Mae'r fideo yn dangos sut y bydd y tu mewn a'r tu allan o 71/72 Ffordd y Brenin yn edrych unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.

Mae'n cynnwys delweddau cysyniadol o ardal y dderbynfa, swyddfeydd, balconïau, ardaloedd rhwydweithio a theras ar y to gyda golygfeydd dros Fae Abertawe.

Mae'r datblygiad, sydd wedi'i ddatblygu gan Gyngor Abertawe ar hen safle clwb nos Oceana, yn cael ei dargedu'n benodol at y sectorau digidol, technoleg a chreadigol.

JLL and Avison Young yw'r asiantiaid gosod a marchnata ar gyfer y cynllun.

Mae'r prif gontractwyr Bouygues UK yn gwneud cynnydd sylweddol ar y datblygiad saith llawr, a disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn gynnar yn 2024.

Bydd y datblygiad yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi, a bydd gwerth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe a bydd yn cynnwys cyswllt newydd rhwng Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin.

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr, a ddyluniwyd gan Architecture 00 yn cynnwys mannau cyhoeddus arloesol gydag ardaloedd penodol o'r adeilad yn cael eu cynnig i'r farchnad agored i'w gosod. Mae'r rhain yn cynnwys dros 47,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd gradd A, yn ogystal â mannau manwerthu, bwyd a diod, neuadd ddigwyddiadau, lleoedd gweithio hyblyg a wasanaethir.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae rhyddhau'r fideo rhithiol o'r awyr newydd yn dilyn argaeledd llyfryn marchnata 71/72 Ffordd y Brenin, wrth i'r gwaith marchnata ar gyfer mannau i fusnesau yno symud ymlaen.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Roedd safle'r datblygiad hwn wedi bod yn dwll yn y ddaear am nifer o flynyddoedd ers dymchwelwyd hen safle clwb nos Oceana, ond erbyn hyn mae gwaith i adeiladu cynllun swyddfeydd newydd o'r radd flaenaf yn mynd rhagddo yno.

"Mae hwn yn wych i Abertawe oherwydd bydd yn gwella golwg a theimlad Ffordd y Brenin ymhellach yn dilyn buddsoddiad mawr yno, a bydd y datblygiad hefyd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi ac yn helpu i gadw busnesau'r sector technoleg, digidol a chreadigol yn y ddinas.

"Bydd hyn yn rhoi hwb i economi ein dinas wrth hefyd gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant ar gyfer busnesau eraill yng nghanol y ddinas fel siopau, bwytai, caffis a thafarndai.

"Rydym eisoes yn cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda nifer o denantiaid posib, ac rydym yn rhagweld y bydd y fideo rhithiol o'r awyr yn arwain at ragor o ddiddordeb yn y datblygiad hwn o'r gymuned fusnes."

Bydd y cynllun yn cynnwys paneli solar yn cael eu gosod ar ben yr adeilad, yn ogystal â systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni a nodwedd dal dŵr glaw i helpu gyda'r cyflenwad dŵr i blanhigion a choed yn y datblygiad ac o'i gwmpas. Bydd hefyd yn cynnwys 69 o leoedd i feiciau a man gwefru beiciau trydan yn ogystal â chyfleusterau cawod a newid helaeth.

Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth neu sydd am ofyn am gopi o'r llyfryn marchnata e-bostio naill â Rhydian Morris yn Rhydian.Morris@jll.com neu Chris Terry yn Chris.Terry@avisonyoung.com

image