Mae gofodau swyddfa a gweithdai modern newydd bron yn barod ym Mhorthladd Penfro sy'n cynnig cyfle i fusnesau gael eu lleoli yng nghanol iard ddociau sydd eisoes yn prysuro, yn y cyfnod datblygu cyffrous a thrawsnewidiol hwn a fydd yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y diwydiannau ynni morol sy'n datblygu.

Bydd y cyntaf o bedwar anecs rhestredig Gradd II sy’n sownd i’r Awyrendai Sunderland hanesyddol yn barod i'w ddefnyddio yn y Gwanwyn, gyda'r tri olaf yn barod erbyn yr Haf. Mae gan bob adeilad sydd newydd ei ddatblygu enw sydd â chysylltiad arbennig â hanes cyfoethog Doc Penfro ac fe’u dewiswyd gan aelodau o'r gymuned leol: Tŷ Catalina, Tŷ Falcon, Tŷ Erebus a Thŷ Oleander.

Yr anecs cyntaf i'w gwblhau fydd y swyddfa ddeulawr yn Nhŷ Oleander ger yr Awyrendy Dwyreiniol. Wedi'i enwi ar ôl y llong olaf i gael ei hadeiladu yn Noc y Llynges Frenhinol yn Noc Penfro, roedd yn un o ddim ond chwe llong o’i bath. Bydd dau lawr yn y swyddfa, gyda chyfanswm o 654m², gyda swyddfeydd unigol yn amrywio o 20m² i 56.7m². Mae contractau'n cael eu llunio gyda thenant ar gyfer yr eiddo hwn ar hyn o bryd.

Bydd gan Dŷ Catalina, adeilad newydd sbon ger Awyrendy Gorllewinol Sunderland, ofodau swyddfa a gweithdai gan gynnwys ystafell gynadledda ganolog, lle parcio ac mae’n agos at fannau cadw cychod, ger y cei a mynediad at lithrfa. Bydd Tŷ Erebus a Thŷ Falcon yn ofodau llawr isaf wedi’u hadnewyddu i'r gogledd ac i'r gorllewin o Awyrendy’r Dwyreiniol. Croesewir ymholiadau pellach ar gyfer y tri eiddo arall.

Mae'r gwaith o ailddatblygu'r anecsau  yn  rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a gefnogir gan brosiect Morol Doc Penfro a fydd yn darparu'r cyfleusterau, y gwasanaethau a’r mannau sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy morol sy'n tyfu'n gyflym, a'r sector carbon isel.

Mae'r Rheolwr Masnachol ym Mhorthladd Penfro, Sharon Adams, wedi cyffroi gyda datblygiad y gwaith, gan ddweud: "Mae'n wych gweld yr adeiladau newydd hyn bron â chael eu cwblhau. Byddan nhw'n darparu amgylchedd modern i fusnesau o fewn porthladd hanesyddol sydd wrth galon cyfnod pontio i ynni adnewyddadwy Sir Benfro. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y cyfleusterau hyn i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth."

Mae datblygiad Anecsau’r Awyrendai yn rhan o brosiect Morol Doc Penfro a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac a ariennir gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a thrwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

I holi am yr anecsau hyn, cysylltwch â Sharon Adams, Rheolwr Masnachol, Sharon.adams@mhpa.co.uk neu 01646 696631. I ddarllen rhagor am y datblygiadau a lawrlwytho llyfryn ewch i www.pembrokeport.com/properties

image