Ddoe, dechreuodd gwaith adeiladu ar Bentre Awel, wrth i Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, partneriaid a rhanddeiliaid i safle'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn dod â chyfleusterau busnes, ymchwil, addysg, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd mewn un lleoliad gwych ar arfordir Llanelli.

Rhan o bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe o naw prosiect a rhaglenni, Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn darparu ymchwil feddygol o'r radd flaenaf ac yn darparu gofal iechyd a bydd yn cefnogi ac yn annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.

Bydd yn creu pum adeilad gwahanol sy'n gysylltiedig â "stryd", a fydd yn cynnwys canolfan gweithgareddau dŵr, neuadd chwaraeon, ystafelloedd chwaraeon a ffitrwydd amlbwrpas a champfa, cyfleusterau addysg a hyfforddiant, darpariaeth glinigol ac ymchwil ac arloesi a lle i fusnesau. 

Yn ogystal â gwella iechyd a llesiant, bydd y prosiect yn creu dros 1,800 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, a disgwylir iddo roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi Bouygues UK i ddylunio ac adeiladu Parth 1 datblygiad Pentre Awel, yn dilyn proses dendro helaeth drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarth De-orllewin Cymru.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price, "Rwy'n falch iawn o groesawu holl gynrychiolwyr allweddol y sefydliadau partner i'r safle ar y diwrnod pwysig hwn pan fyddwn yn dechrau ar y gwaith adeiladu yn swyddogol.

“Mae Pentre Awel yn brosiect adfywio strategol o bwys i Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae'n ganolog i gyflawni ein Cynllun Adfer Economaidd. Er mai Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n arwain y datblygiad uchelgeisiol hwn, ni fyddai'n bosibl heb gefnogaeth ac ymroddiad gan ystod eang iawn o randdeiliaid y mae pob un ohonynt yn cael eu cynrychioli yma heddiw.”

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad oedd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd John: “Mae Pentre Awel yn dwyn ynghyd gyfuniad unigryw o elfennau sy'n cwmpasu’r byd busnes, y byd academaidd, iechyd a gofal ac, yn hollbwysig, ein cymuned; a byddant i gyd yn datblygu rhwydwaith i greu system gyfan lle gall partneriaid ddod o hyd i gyfleoedd i weithio ar draws ffiniau traddodiadol.

“Mae Pentre Awel yn brosiect sawl cam sy'n dechrau dod yn realiti heddiw wrth i ni ddechrau yn swyddogol ar adeiladu Parth 1 y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn hydref 2024.

“Fodd bynnag, dim ond y dechrau yw Parth 1. Ym Mharthau 2 a 3 bydd tua 370 o unedau byw â chymorth a gwelyau. Ar gyfer Parth 4, mae gennym ganiatâd cynllunio ar gyfer gwesty a thai. Cadwch lygad am y datblygiadau diweddaraf.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies: “Mae hwn yn brosiect cyffrous a phwysig ac mae Llywodraeth y DU yn falch o'i gefnogi drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

“Mae gan Bentre Awel botensial i ddod â chryn fanteision i'r ardal leol drwy gyfleusterau iechyd a hamdden o'r radd flaenaf ond hefyd drwy gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Dyma 'codi'r gwastad' ar waith ac rwy'n falch iawn o weld y prosiect hwn yn cyrraedd ei gam datblygu nesaf.” 

Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK ym Mhentre Awel, "Roedd yn wych croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol i dorri'r tir yn swyddogol yn y datblygiad pwysig hwn. Roedd yn gyfle arbennig i ni rannu ein cynlluniau manwl ar y gwaith adeiladu a thrafod sut rydym yn ymgysylltu â'r gymuned leol i gynnig swyddi a chyfleoedd hyfforddiant drwy gydol datblygiad Pentre Awel. 

“Mae'r cyfleusterau hamdden ac iechyd o'r radd flaenaf yn mynd i fod o fudd i'r boblogaeth leol am genedlaethau i ddod, ac mae hynny'n rhywbeth cyffrous iawn i fod yn rhan ohono. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag is-gontractwyr lleol gwych a symud ymlaen â'r gwaith adeiladu yn gyflym dros y misoedd nesaf.”

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.

image