Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud i greu porthladd amlbwrpas a fydd yn barod am ynni’r dyfodol yn Sir Benfro gan sicrhau adnoddau disglair a llewyrchus ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Dechreuodd y gwaith corfforol ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe a phrosiect morol Doc Penfro a ariennir gan yr UE o ddifrif fis Awst y llynedd gyda seremoni torri’r dywarchen i nodi dechrau’r gwaith o adeiladu llithrfa enfawr a phontynau cychod gwaith newydd ym Mhorthladd Penfro.

Ers hynny mae tirwedd y safle wedi newid yn ddramatig. Mae'r llithrfa yn cael ei hehangu'n sylweddol i 68 metr a'i hymestyn i gynnig mwy o hyblygrwydd i ddatblygwyr a busnesau morol sydd am brofi dyfeisiau ynni morol newydd, lansio ac adfer llongau, ac i gwmnïau cadwyn gyflenwi sy'n darparu gwasanaethau cynnal a chadw a pheirianyddol i weithredwyr dyfeisiau gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd. Unwaith y bydd yn barod yng Ngwanwyn 2024, bydd y llithrfa ehangach yn mesur 11,352 metr sgwâr sy'n cyfateb i gae pêl-droed a hanner. Mae deunyddiau o'r gwaith i ehangu'r llithrfa yn cael eu hailgylchu a'u defnyddio i greu gofod gosod mawr ei angen trwy lenwi'r pwll pren.

Mae pontynau cychod gwaith newydd yn cael eu gosod i'r dwyrain o'r derfynfa fferi bresennol ac yn cynnig opsiynau angori tymor byr a hirdymor ar gyfer cychod gwaith, cychod hir a chychod ‘jack up’, ac wedi’u lleoli’n daclus rhwng Cei 1 a'r llithrfa newydd. Mae'r rhain eisoes yn boblogaidd a byddant ar gael i'w defnyddio o Hydref 2023.

Wrth Gât 1, mae'r pedwar anecs newydd sydd ynghlwm wrth yr Awyrendai Sunderland hanesyddol bron â’u cwblhau. Bydd y rhain yn cynnig swyddfeydd a gweithdai modern mewn lleoliad delfrydol ar gyfer cwmnïau yn y sectorau adnewyddadwy a morol sy'n chwilio am ganolfan newydd o fewn porthladd masnachol prysur. Mae gofod swyddfa a gweithdai newydd sbon yn hwyluso ateb gweithio hyblyg sy'n ddelfrydol ar gyfer datblygwyr a busnesau'r gadwyn gyflenwi. Mae pedwar anecs yr awyrendai wrthi’n cael eu cwblhau a byddant yn barod i’w defnyddio yn ystod yr haf. Bydd Tŷ Oleander, Tŷ Catalina, Tŷ Falcon a Thŷ Erebus yn cynnig ystod o swyddfeydd a gweithdai un llawr a deulawr, gyda dau gontract yn cael eu trafod ar hyn o bryd.

Mae Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol Porthladd Aberdaugleddau, yn falch o'r cynnydd sy'n cael ei wneud ym Mhorthladd Penfro. Dywedodd: "Bydd y gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r cyfleusterau a'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i'r sector morol ond hefyd i'r diwydiant adnewyddadwy sy’n mynd o nerth i nerth ac sy'n cael ei ddenu yma gan y cyfleoedd cyffrous ar gyfer prosiectau gwynt arnofiol ar y Môr Celtaidd. Mae'r tîm yn y Porthladd a'r contractwyr BAM Nuttall, Grŵp Walters ac R&M Williams yn cadw'r prosiect ar y trywydd iawn ac rwy'n hyderus y byddwn yn denu cwmnïau eiconig ac arloesol sydd am leoli eu hunain ym Mhorthladd Penfro."

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, "Mae'r Fargen Ddinesig yn gwneud cynnydd sylweddol diolch i brosiect Morol Doc Penfro drwy chwyddo’r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth gyda ffocws penodol ar y sector ynni a thechnolegau adnewyddadwy. Bydd y gwaith y mae R&M Williams a BAM Nuttall yn ei gwblhau yn Anecsau’r Awyrendy, ar y pontynau a’r llithrfa yn adfywio Porthladd Penfro yn ogystal â chefnogi'r economi ynni glaswyrdd, sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol De-orllewin Cymru. Ynghyd â llwyddiant diweddar cais y Porthladd Rhydd Celtaidd, mae'n cryfhau ein huchelgais i greu rhanbarth llewyrchus a fydd yn helpu busnesau i ffynnu a thrigolion i gael mynediad at swyddi sy'n talu'n dda, nawr ac yn y dyfodol."

Mae Ardal Forol Doc Penfro yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a thrwy'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gweler y cynnydd sy'n cael ei wneud hyd yma ar-lein yn: Datblygiadau Porthladd Penfro ar Youtube

image