Mae gwaith wedi dechrau ar y Matrics Arloesi, y cam nesaf yn Ardal Arloesi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn SA1 Glannau Abertawe. 

Mae'r Matrics Arloesi’n ganolog i uchelgais y Brifysgol yn Abertawe a bydd yn darparu llwyfan newydd ar gyfer ymchwil a chyfnewid gwybodaeth Y Drindod Dewi Sant i gysylltu â chwmnïau rhyngwladol, BBaCh, microfentrau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr traws-sector, a’u cefnogi i ysgogi twf masnachol ar gyfer economi Cymru sydd wedi’i grymuso’n ddigidol ac sy'n ehangu. 

Wedi'i ariannu drwy bartneriaeth strategol rhwng y Brifysgol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y Matrics Arloesi’n annog ac yn cefnogi datblygu economi gynaliadwy a arweinir gan arloesedd, sy'n seiliedig ar wybodaeth, arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd Y Drindod Dewi Sant: “Mae'r Matrics Arloesi’n darparu cyswllt hanfodol i gampws ehangach y Brifysgol yn Abertawe, gan gynnwys IQ a’r Fforwm, Technium 1 a 2, Canolfan Dylan Thomas, Campws Busnes Abertawe,  Ardal Gelfyddydol Dinefwr, ALEX ac Adeilad y BBC.  Mae'n cynrychioli ehangiad mawr yn ecosystem arloesi'r Brifysgol ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi twf economaidd a thrawsnewid yn rhanbarth Bae Abertawe."

Mae'r adeilad yn arwydd o gam sylweddol ymlaen yn agenda carbon sero-net y Brifysgol gan ddarparu gofod 2,200 metr sgwâr o ansawdd uchel, a bydd wedi'i leoli ochr yn ochr ag adeiladau presennol y Brifysgol, sef IQ a’r Fforwm, yng nghanol Ardal Arloesi Abertawe. Mae'r Brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â'r penseiri Stride Treglown a'r cwmni adeiladu Kier i wireddu'r datblygiad cyffrous hwn a fydd yn agor yn 2024.

Cynhaliwyd digwyddiadau cychwyn ar y safle ddydd Mercher a dydd Iau, 7fed ac 8fed Mehefin, lle’r oedd Mr Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru; y Gwir Anrhydeddus David T.C. Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU; Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart; ac uwch swyddogion yn cynrychioli Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bresennol.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae gan Lywodraeth Cymru ffocws clir ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach. Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd ar flaen y gad o ran arloesi technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau bob dydd. Mae gan y Matrics Arloesi rôl bwysig i'w chwarae wrth gyflawni'r weledigaeth honno gan wasanaethu fel catalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant.

“Mae'r Matrics Arloesi’n enghraifft wych o’r byd academaidd a diwydiannol yn gweithio'n agos i helpu i yrru arloesedd a rhagoriaeth. Mae ganddo'r potensial i ddatgloi deallusrwydd cyfunol er mwyn mynd i'r afael â heriau cymhleth yn fwy effeithiol, cyflymu cyflymder arloesi a sbarduno newid ystyrlon yn ein cymdeithas."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies:

“Llongyfarchiadau i bawb sy'n ymwneud â'r cyfleuster newydd cyffrous hwn ar gyfer Abertawe. Mae Llywodraeth y DU yn falch o fuddsoddi ym Margen Ddinesig Bae Abertawe a helpu i greu lleoedd fel hyn lle gall ymchwilwyr, arloeswyr, busnesau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr i gyd ddod at ei gilydd a lle gall syniadau ffynnu.

“Ynghyd â'n partneriaid, rydym am dyfu'r economi ddigidol yng Nghymru a chreu swyddi sy’n talu’n dda ar gyfer y dyfodol a lledaenu ffyniant. A lleoedd fel y Matrics Arloesi fydd yn helpu i sicrhau hyn."

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant:

“Y Matrics Arloesi yw'r cam nesaf yn uchelgais y Brifysgol i drawsnewid glannau Abertawe yn gymdogaeth lle bydd pobl yn gweithio, yn astudio ac yn byw, a lle bydd y Brifysgol a'i phartneriaid yn cydleoli ac yn cydweithio. Gyda'n gilydd, rydym yn creu canolfannau menter newydd a chynlluniau cyflymu sgiliau uchel i dyfu busnesau newydd sy'n gysylltiedig â'n portffolio. Rydym hefyd yn datblygu sgiliau busnesau presennol ac yn denu buddsoddiad newydd i'r rhanbarth".

I gloi, meddai yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Nod y Brifysgol yw datblygu ein campysau ar draws y rhanbarth yn ganolfannau effaith sy'n cysylltu â blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol a sicrhau ein bod ni’n ymateb i anghenion economaidd a chymdeithasol ein cymunedau. Mae'r Matrics Arloesi’n ddatblygiad allweddol i'r Brifysgol ac rydym yn ddiolchgar o fod yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ”.

 

image