Mae Bouygues UK, y prif gontractwr sy’n adeiladu Pentre Awel, sef y datblygiad nodedig yn Llanelli, yn awyddus i siarad â mwy o isgontractwyr lleol sydd â diddordeb mewn gweithio ar y prosiect.

Mae’r galwad yn dilyn digwyddiad ar-lein llwyddiannus a gynhaliwyd i gysylltu â’r rhai sydd am gydweithio, pan gyfarfu busnesau o bob rhan o dde a gorllewin Cymru ar-lein â thîm prosiect Bouygues UK i drafod y cyfleoedd contract amrywiol ar y datblygiad arloesol gwerth miliynau o bunnoedd.

Pentre Awel, sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi'i ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru. Bydd yn dwyn ynghyd arloesedd gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli.  

Mae Bouygues UK eisoes yn gweithio gyda llawer o is-gontractwyr lleol ar safle Pentre Awel, yn rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae’r cwmnïau sydd wedi’u contractio hyd yma i weithio ar Bentre Awel yn cynnwys: Gwyrdd dros Gymru, Redsix Partnership, Grŵp Gavin Griffiths, Dyfed Steels, Dyfed Recycling Services, Owen Haulage a Shufflebottom – ac mae Bouygues UK yn awyddus i gynyddu’r nifer hwnnw ymhellach.

Mae pob un o'r cwmnïau hyn yn cefnogi Bouygues UK gyda'i fentrau cynaliadwyedd ar y safle. Mae Gwyrdd dros Gymru yn darparu tanwydd Olew Llysiau wedi’i drin â Hydrogen (HVO) i’r safle a chadwyn gyflenwi’r prosiect, gan leihau faint o danwydd ffosil sy’n cael ei ddefnyddio a helpu Bouygues UK i leihau ei allyriadau carbon. Mae Redsix Partnership yn cynnal adroddiad Asesiad Cylch Bywyd One Click y safle, i helpu i olrhain effaith amgylcheddol y prosiect a’r carbon ymgorfforedig.   

Mae Grŵp Gavin Griffiths yn ailgylchu cap stanciau concrit y prosiect ac yn ail-bwrpasu’r deunydd i’w ddefnyddio mewn rhannau eraill o’r gwaith adeiladu. Mae Dyfed Recycling yn cymryd gwastraff o’r prosiect, y mae 99% ohono’n cael ei ailgylchu, tra bod Owens Haulage yn storio dodrefn swyddfa o brosiectau eraill Bouygues UK fel y gellir eu hailddefnyddio ym Mhentre Awel yn hytrach na’u hanfon i safleoedd tirlenwi.

Mae cynaliadwyedd hefyd yn uchel ar agenda'r cwmnïau sy'n gweithio ar strwythur ffisegol yr adeilad. Mae Dyfed Steels yn darparu’r bar atgyfnerthu ar gyfer sylfeini’r prosiect, sydd â 98% o gynnwys wedi’i ailgylchu, ac mae Shufflebottom yn darparu’r dur strwythurol ar gyfer yr adeilad, sydd hefyd â 80% o gynnwys wedi’i ailgylchu.

Meddai Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues UK: “Fel rhywun sy’n hanu o orllewin Cymru, mae’n wych cael gweithio gyda chynifer o gwmnïau lleol, ac rydyn ni’n awyddus i gydweithredu â llawer mwy eto.   

“Rydyn ni am gwrdd â chynifer o gontractwyr lleol, mawr a bach, â phosib, i drafod y cyfleoedd gwahanol sydd gyda ni ar y prosiect hwn. Mae’n amcan allweddol i Bouygues UK ddarparu cyflogaeth a hyfforddiant i bobl a chwmnïau lleol, er mwyn sicrhau ein bod ni’n gadael gwaddol ymhell ar ôl i’r gwaith adeiladu ar Bentre Awel ddod i ben.”

Ychwanegodd Peter: “I’r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ar y prosiect gyda ni, cysylltwch â mi’n uniongyrchol a chadwch lygad ar wefan GwerthwchiGymru, i gael gwybodaeth am ein digwyddiadau Cwrdd â’r Contractwr sydd ar ddod. Po fwyaf o gwmnïau y byddwn ni’n cwrdd â nhw, y mwyaf o gyfleoedd y byddan ni’n eu cael i weithio gyda nhw a chreu swyddi lleol pan fyddwn ni’n dechrau gweithio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

“Gallwch chi weld bod cynaliadwyedd a gofalu am yr ardal yn bwysig iawn i ni yn Bouygues UK, ac felly os ydych chi’n credu y gallwch chi ychwanegu at y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud gan ein hisgontractwyr lleol, cysylltwch â ni.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Fel Cyngor Sir, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Bouygues UK Ltd i hyrwyddo’r cyfleoedd i is-gontractwyr, cyflenwyr a busnesau lleol yn y diwydiant adeiladu. Byddwn i’n annog unrhyw barti â diddordeb sy’n lleol i Lanelli a Sir Gâr i gysylltu â Bouygues gan ddefnyddio’r cysylltiadau a ddarparwyd. Mae cyfleoedd gwirioneddol i fusnesau lleol ar draws amrywiaeth eang o grefftau weithio ar y prosiect. Gall hyn fod un ai’n uniongyrchol i Bouygues UK Ltd fel y prif gontractwr, neu drwy’r pecynnau a’r penodiadau niferus ar gyfer is-gontractwyr sy’n gysylltiedig â phrosiect adeiladu mor fawr.”

Mae gan Bouygues UK gyfleoedd ar gyfer crefftau niferus dros ychydig flynyddoedd nesaf y prosiect, o'r rhai mewn gwaith allanol i gwmnïau sy'n arbenigo mewn gosodiadau mewnol.

Bydd cyfleoedd pellach i fusnesau lleol weithio gyda Bouygues UK yn cael eu postio ar gwerthwchigymru.llyw.cymru, yn y cyfnod sy’n arwain at ddechrau’r gwaith adeiladu yn hydref 2023. Mae croeso hefyd i’r rhai sydd â diddordeb gysylltu â chyfarwyddwr y prosiect, Peter Sharpe, yn peter.sharpe@bouygues-uk.com

image