Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi dangos y strwythur dur cyntaf ar gyfer prosiect arloesol Pentre Awel. Dyma’r adeilad cyntaf o bump, a bydd yn gartref i ddatblygiad addysg a busnes. 

Ymunodd arweinwyr o Gyngor Sir Gâr â chynrychiolwyr o Bouygues UK a’r contractwyr lleol, Shufflebottom a Dyfed Steels, i weld y strwythur dur, sy’n garreg filltir sylweddol yn y prosiect.

Mae’r prosiect, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Gâr, ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru. Bydd yn dwyn ynghyd arloesedd gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Fe’i hariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn), ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.

Mae Bouygues UK, sef y prif gontractwr, wedi ymrwymo i ddefnyddio isgontractwyr lleol yn rhan o’i ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau i bobl leol a grwpiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol.  

Dyfed Steels sy’n darparu’r bar atgyfnerthu ar gyfer sylfeini’r prosiect, sydd â 98% o gynnwys wedi’i ailgylchu, a Shufflebottom sy’n darparu’r dur strwythurol ar gyfer yr adeilad, sydd â 80% o gynnwys wedi’i ailgylchu. Gydag ymrwymiad i dreftadaeth yr ardal, mae'r ffrâm ddur hefyd yn darparu cyswllt hanesyddol â'r adeiladau diwydiannol blaenorol a leolwyd ar y safle. Mae'r rhain yn cynnwys Gweithfeydd Tunplat De Cymru a Melinau (Tunplat) Richard Thomas.

Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues UK, fod y strwythur dur yn gam arwyddocaol i’r prosiect.  

Meddai: “Dyma garreg filltir adeiladu bwysig ym Mhentre Awel, ac un gyffrous, gan y gallwn ni ddechrau gweld y strwythur yn ymffurfio, sy’n rhoi syniad o ba mor fawr yw’r prosiect. Mae gan fframio dur hanes profedig o ddarparu buddion cynaliadwy, ac mae hefyd yn cynnig buddion cost sylweddol o'i gymharu â deunyddiau amgen. 

I ni, mae’n bwysig iawn bod gennym gynifer o isgontractwyr â phosib yn gweithio ar y prosiect hwn gyda ni, ac mae’n wych cael croesawu ein gwesteion o’r cwmnïau lleol Shufflebottom a Dyfed Steels i weld y cynnydd sy’n cael ei wneud yma.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gâr:

“Er bod y gwaith wedi bod yn mynd rhagddo’n gyflym ers misoedd lawer, mae’r garreg filltir hon yn nodi dechrau’r gwaith uwchben y ddaear. Rydym wrth ein bodd bod busnesau o Sir Gâr, sef Shufflebottom o Cross Hands, a Dyfed Steels o Ddafen, yn chwarae rhan mor arwyddocaol yn y gwaith o adeiladu Parth 1. Mae eu sgil a’u harbenigedd fel dau fusnes lleol sy’n ein helpu i gyflawni’r hyn a fydd yn gyfleuster gwych ym Mhentre Awel yn rhoi hwb sylweddol i’r economi leol. Mae hyn, ochr yn ochr â rhaglen ategol y prosiect o brentisiaethau, recriwtio a hyfforddiant, yn adlewyrchu uchelgais ar y cyd ar ran y Cyngor Sir a Bouygues UK i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i bobl a busnesau lleol.”  

Yn ogystal â Shufflebottom a Dyfed Steels, mae cwmnïau eraill sydd wedi’u contractio i weithio ar Bentre Awel yn cynnwys: Green4Wales, Redsix Partnership, Gavin Griffiths Group, Davies Crane hire, Dyfed Recycling Services ac Owen Haulage. Mae gan Bouygues UK gyfleoedd ar gyfer crefftau niferus dros ychydig flynyddoedd nesaf y prosiect, o'r rhai mewn gwaith allanol i gwmnïau sy'n arbenigo mewn gosodiadau mewnol.

 

image