Mae cwmni Morgan Sindall Construction wedi cael ei gomisiynu i ddylunio ac adeiladu cyfleuster newydd gwerth £20m a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe yng Nghastell-nedd Port Talbot a fydd yn helpu diwydiant i ddatgarboneiddio.

Enw'r cyfleuster, a gaiff ei ddatblygu dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, fydd Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru (South Wales Industrial Transition from Carbon Hub – SWITCH) Glannau'r Harbwr, a bydd wedi'i leoli'n agos i waith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.

Bydd SWITCH Harbousside yn gyfleuster ymchwil ar gyfer datgarboneiddio'r diwydiant metelau a dur.

Bydd yr adeilad yn rhan o raglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel y Fargen Ddinesig, a'i nod fydd sefydlu'r rhanbarth fel arweinydd ym maes twf carbon isel a'r economi werdd.

Disgwylir iddi gymryd 18 mis i gwblhau'r gwaith.

Bydd SWITCH Glannau'r Harbwr yn gyfleuster mynediad agored pwrpasol a fydd yn sefydlu rhwydwaith cydweithredol o arbenigedd ym meysydd academia, diwydiant a'r llywodraeth, er mwyn ceisio cyflymu'r broses o bontio i sero net yn y rhanbarth.

Bydd Morgan Sindall, a ddatblygodd adeilad arobryn Canolfan Dechnoleg y Bae ym Mharc Ynni Baglan yn ddiweddar, yn cynnwys technolegau ynni cynaliadwy wrth ddylunio'r adeilad. Bydd hyn yn helpu i gyflawni strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy'r cyngor drwy ymgorffori technoleg fel paneli ffotofoltäig er mwyn darparu ffynhonnell sylweddol o ynni glân a sicrhau na chaiff tanwyddau ffosil eu defnyddio ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu.

Dywedodd Robert Williams, cyfarwyddwr ardal yn Morgan Sindall Construction: “Mae'n fraint cael cyflawni rôl allweddol yn natblygiad SWITCH Glannau'r Harbwr, a fydd yn helpu'r rhanbarth i symud tuag at ddyfodol Sero Net.

“Rydyn ni'n cydweithio'n agos â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a'i bartner, Prifysgol Abertawe, i sicrhau y byddwn yn dod â'n harbenigedd a'n gwybodaeth ynghyd er mwyn cyflawni'r canlyniad gorau posibl ar gyfer y prosiect. Mae hyn yn adeiladu ar flynyddoedd o ddatblygu fel busnes cyfrifol i leihau'r defnydd o garbon wrth godi adeiladau a'u defnyddio lle bynnag y bo modd ym mhob prosiect er mwyn ein helpu i adeiladu tuag at ddyfodol gwell.”

Bydd y cyfleuster yn helpu sectorau fel y diwydiant dur a metelau i ddatgarboneiddio prosesau, datblygu economi gylchol, a chreu deunyddiau soffistigedig ar gyfer cymdeithas sero net.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, y Cyngh. Jeremy Hurley: “Bydd prosiect cyffrous SWITCH Glannau'r Harbwr yn helpu i drawsnewid a datgarboneiddio ein diwydiant dur a metelau pwysig a'i gadwyn gyflenwi gysylltiedig.

“Mae'r prosiect hwn yn ategu strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy a gweledigaeth barhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gael ei weld fel lle deniadol i fyw, gweithio a gwneud busnes ynddo.”

Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe: “Bydd SWITCH Glannau'r Harbwr yn arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni mewn dyfodol sero net, o ran y ffordd y caiff y cyfleuster ei ddylunio a'i ddiben hefyd.

“Bydd SWITCH Glannau'r Harbwr yn adeiladu ar hanes Prifysgol Abertawe o ddod ag academia, diwydiant, awdurdodau lleol a'r llywodraeth ynghyd. Bydd yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau a diwydiant gael budd o arbenigedd ymchwil yng Nghymru, er mwyn ein helpu i bontio i sero net yn gyflymach.”

image