Mae Porth Penfro, sy'n eiddo i Borthladd Aberdaugleddau ac sy'n cael ei redeg ganddo, wedi croesawu'r cwsmer cyntaf i'w bontynau cychod gwaith newydd. Wedi'u gosod fel rhan o brosiect Morol Doc Penfro i foderneiddio seilwaith y Porthladd, mae'r pontynau ar gael i'w defnyddio gan ystod o gychod gan gynnwys cychod gwaith, cychod camlas a llongau bach eraill.

CRC Sentinel, cwch cymorth plymio sy'n eiddo i Commercial Rib Charter sy'n ymgymryd â gwaith ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau, oedd y cyntaf i ddefnyddio'r pontynau newydd.

Meddai Sharon Adams, Rheolwr Masnachol Porthladd Penfro "Mae'n wych gweld yr asedau newydd hyn yn cael eu defnyddio. Mae Porthladd Penfro mewn lleoliad perffaith ym Mhorthladd Aberdaugleddau i weithredu fel canolbwynt ar gyfer gweithrediadau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch morol sy'n digwydd yn y Porthladd a'r Môr Celtaidd. Mae'r pontynau ar gael ar gyfer angori tymor byr a hir ac mae ganddyn nhw fynediad diogel, yn ogystal ag angorfeydd â thrydan a dŵr.

Mae'r pontynau cychod gwaith yn ategu'r gwaith uwchraddio seilwaith arall rydyn ni wedi’i wneud fel rhan o brosiect Morol Doc Penfro gan gynnwys gofod gosod newydd a llithrfa estynedig.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n cwsmeriaid presennol, a chroesawu rhai newydd, i ddefnyddio'r cyfleusterau newydd ym Mhorthladd Penfro."

Mae'r seilwaith newydd ym Mhorthladd Penfro yn rhan o brosiect Morol Doc Penfro i greu canolfan ragoriaeth ynni a pheirianneg o'r radd flaenaf a bod yn ganolbwynt ar gyfer cipio'r gwerth economaidd a geir o brosiectau ynni gwynt, tonnau a llanw adnewyddadwy.

Law yn llaw â buddsoddiad y Porthladd ei hun, mae prosiect Morol Doc Penfro - prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe - yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yn ogystal â phartneriaid eraill yn y sector preifat.

Yn ystod y gwaith adeiladu, mae’r prosiect wedi cefnogi dros 50 o swyddi gan gynnwys 6 phrentisiaeth. Cynhaliodd y contractwyr BAM, Walters Group ac R&M Williams weithgarwch cymunedol yn ystod y prosiect, gyda'r gymuned leol yn elwa ar dros £11m o wariant lleol.

I gael rhagor o fanylion am y cyfleusterau ym Mhorthladd Penfro, a sut mae buddsoddiadau Morol Doc Penfro wedi paratoi Porthladd Penfro ar gyfer ynni yn y dyfodol, ewch i www.pembrokeport.com.

image