Mae tîm safle Bouygues UK ym Mhentre Awel wedi cael marciau uchel yn ei asesiad Cynllun Adeiladwyr Ystyriol (CCS) cyntaf, sy’n anrhydeddu ymrwymiad y prosiect i gynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol.

Mae’r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol yn helpu i gefnogi’r diwydiant adeiladu i godi ei safonau o ran bod yn adeiladwr ystyriol a meithrin ymddiriedaeth gyda’r cyhoedd. Mae tîm safle Pentre Awel wedi sgorio 45/45 ar draws yr holl feini prawf arholi, gan gynnwys Parch at y Gymuned (15/15), Gofal am yr Amgylchedd (15/15) a Gwerthfawrogi ein Gweithlu (15/15) yn yr asesiad CCS..

Mae datblygiad Pentre Awel, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin a bydd yn dod ag arloesi ym meysydd gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn), ac ef yw’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.

Mae’r prif gontractwr, Bouygues UK, wedi gorfod wynebu heriau amgylcheddol sylweddol oherwydd lleoliad y safle ar hen dir diwydiannol, gan ddelio ag amodau tir amrywiol a dŵr ar yr un pryd â chynnal bywyd gwyllt ac ecoleg.

Mae'r tîm wedi rhagori ar ei nodau cynaliadwyedd cychwynnol drwy roi nifer o fesurau amgylcheddol arloesol ac effeithlon ar waith.

Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Pentre Awel Bouygues UK, “Nid yw datblygu prosiect mor fawr ar arfordir Llanelli yn dod heb heriau amgylcheddol, ond rydym yn falch o gael ein cydnabod gan CCS am ein gallu i oresgyn y rhain, gan sgorio marciau llawn yn y maes hwn.

“Er mwyn cadw allyriadau carbon ar y safle i’r lefel leiaf bosibl, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Gaia, cwmni o Sir Gaerfyrddin sy’n helpu i nodi, monitro a lleihau’r defnydd o bŵer, gan ddefnyddio meddalwedd deallusrwydd artiffisial a synhwyrydd mudiant. Mae'n ein galluogi i ddod o hyd i atebion callach a glanach o ran y ffordd yr ydym yn pweru ein safle. Mae’r holl fesurau rydym wedi’u cyflwyno fel hyn wedi’u cydnabod drwy ein sgôr CCS eithriadol, ac maen nhw’n cyfrannu at ein strategaeth gynaliadwyedd a’n map ffordd ar gyfer dod yn sero net erbyn 2025.

“Mae ein cyflawniad yn yr asesiad CCS hwn ym Mhentre Awel yn adlewyrchu’r safonau cyflawni eithriadol sydd gennym yn Bouygues UK. Rydym wrth ein bodd bod ein pryder am les fflora, ffawna a’n cymunedau lleol wedi cael cydnabyddiaeth uchel fel hyn.”

Mae lleihau allyriadau carbon wrth galon Pentre Awel, gyda llawer o fentrau i helpu i leihau allyriadau carbon, gwastraff ac ynni drwy gydol y prosiect. Un llwyddiant o'r fath yw gosod swyddfeydd a chabanau sydd wedi'u pweru gan baneli solar. Pan nad ydynt yn cael eu pweru gan yr haul, maent yn trosi i eneradur olew llysiau sydd wedi'i drin â dŵr (HVO) - mae hyn ynddo’i hun wedi lleihau ôl troed carbon y rhan hon o'r prosiect 76% mewn tua 15 wythnos ar y safle. Mae'r tîm hefyd wedi trosi pob un o'u systemau teledu cylch cyfyng ar y safle i systemau ynni'r haul.

Hefyd, gyda chymorth Alun Griffiths a Pritchard’s, mae safle Pentre Awel wedi trosi’n gyfan gwbl i danwydd HVO. Mae wedi dod o hyd i ddarparwr tanwydd HVO lleol, ac er bod HVO yn ddrytach na diesel gwyn, gall leihau allyriadau carbon hyd at 90%, ac felly mae wedi’i fabwysiadu ar gyfer Pentre Awel. Mae deunydd a gloddiwyd a phridd o wyneb y safle hefyd wedi’u cludo i gyfleuster ailgylchu lleol lle gellir gwahanu’r deunydd, ei drin a’i ailddefnyddio, gan leihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae'r prosiect ar dariff gwyrdd ac ar hyn o bryd, mae'n gweithredu'n garbon niwtral.

Mae tîm y safle ym Mhentre Awel hefyd yn gwbl ymroddedig i addasu'r safle i leihau unrhyw aflonyddwch posibl i'r ecosystemau cyfagos. Mae lagŵn wedi'i greu ar gyfer gollwng dŵr i atal halogiad, a chedwir offer gollwng ar y safle.

Mae'r holl waith sy'n cael ei wneud ar y safle yn dilyn canllawiau Gweithgarwch Cofrestredig yn agos, gan nodi, cynnal a gwella'r amgylchedd naturiol lleol. Mae tîm Pentre Awel wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys swyddogion ecoleg Cyngor Sir Gâr a Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau na fyddai’r datblygiad yn effeithio ar yr ecoleg a’r cyrff dŵr o amgylch y safle. Mewn gwirionedd, bydd rhan sylweddol o'u gwaith tirwedd a thir cyhoeddus ymrwymedig yn gwella cynefinoedd ecolegol ac yn gwella bioamrywiaeth.

Yn dilyn arolygon ecoleg cyn-adeiladu, mae Bouygues UK wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu ymlusgiaid, llygod dŵr, dyfrgwn, adar sy'n nythu ac ystlumod yn ystod y gwaith.

Yn ogystal â chanmol yr ymrwymiad i’r amgylchedd, canmolodd aseswyr CCS Bouygues UK ar ei ymgysylltiad cymunedol, gan ddisgrifio Pentre Awel fel “safle rhagorol sy’n cyflwyno delwedd gadarnhaol iawn o’r diwydiant.”

Canmolwyd Bouygues UK am hyrwyddo cyfleoedd i isgontractwyr lleol a’i ymgysylltiad cadarnhaol â sefydliadau addysgol a’r gymuned o amgylch y safle.

Mae wedi creu partneriaeth ag Ysgol Bryngwyn a Go Construct i sefydlu cynllun profiad gwaith Byd Go Iawn gyda phum ysgol leol arall, yn ogystal ag ymgysylltu â llysgenhadon cymunedol a diweddaru hysbysfyrddau cymunedol ac anfon cylchlythyrau yn rheolaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “O'r camau cynllunio a dylunio cynnar mae'r Cyngor wedi gweithredu i greu datblygiad cynaliadwy a chynhwysol ym Mhentre Awel ac mae'r gwaith pwysig hwn yn parhau yn ystod y cam adeiladu. Mae'n wych gweld aelodau tîm y prosiect yn cael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion cydwybodol i ymgysylltu â'r gymuned leol, rheoli bioamrywiaeth a lleihau effaith amgylcheddol y gwaith adeiladu ym Mharth 1 ar y safle. Pan fydd adeilad Parth 1 yn agor, bydd yn defnyddio pympiau gwres o'r awyr, dros 800 o baneli solar a mannau gwefru Cerbydau Trydan gan roi ffocws ar deithio llesol – gyda phob un yn cyfrannu at gyrraedd targed sef achrediad 'Rhagorol' BREAAM (fframwaith diwydiant sy'n cael ei gydnabod yn eang ac sy'n gwerthuso ystod o feini prawf dylunio, adeiladu a defnydd i asesu perfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd adeilad).

“Yn unol â holl brosiectau cyfalaf y Cyngor, rydym yn ymdrechu i fod yn gyfrifol yn amgylcheddol a lleihau allyriadau carbon, ac wrth wneud hynny mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a gafodd ei ddatgan yn 2019.”

image