Bydd cyllid grant y Rhaglen Seilwaith Digidol yn cefnogi'n helaeth yr hyn a fydd yn amgylchedd ymchwil ac arloesi cyntaf y byd sy'n manteisio ar seilwaith 5G i wella iechyd a llesiant ac a fydd yn creu "labordy byw" yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

Canmolodd yr Ysgrifennydd Hillary Clinton y cyhoeddiad pwysig yn y digwyddiad Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe.  Bydd y bartneriaeth â Vodafone, Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn darparu mainc arbrofi 5G sy'n cwmpasu dau gampws y Brifysgol, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Treforys a rhannau eraill o'r ddinas.  Bydd y "labordy byw" yn cefnogi datblygu dyfeisiau allweddol ar gyfer iechyd, llesiant a gwyddor chwaraeon a fydd yn golygu bod modd monitro llesiant corfforol a meddyliol mewn amser real, gan helpu i wella safonau gofal cyffredinol.

Bydd yr ymchwil arloesol hon a ddatblygwyd gan brosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn arwain y ffordd o ran datblygu technoleg feddygol, iechyd a chwaraeon yn fyd-eang a disgwylir iddi ddenu buddsoddiad pellach a swyddi i'r rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe: “Rydym yn falch iawn o fod yn ariannu prosiect a fydd yn trawsnewid arloesi ym maes iechyd, llesiant a gwyddor chwaraeon fel yr ydym yn ei adnabod ar hyn o bryd.  

“Yn ogystal â chryfhau darpariaethau gofal iechyd y sector cyhoeddus ar gyfer ein cymuned leol, bydd hefyd yn ased gwerthfawr i Gymru gyfan. 

“Mae'n gyfnod cyffrous i dechnoleg ddigidol ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad o ran y datblygiadau hynny.  Bydd y cyfleuster hwn yn elwa ar gysylltedd digidol o'r radd flaenaf, felly rwy'n hyderus y bydd y cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn yn sicr o roi'r ddinas ar y map fel arweinydd yn y diwydiant.  

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Abertawe yn dod yn ddinas glyfar fel rhan o ranbarth gwirioneddol ddigidol ac mae'r buddsoddiad hwn gam cadarnhaol yn nes at wneud i hynny ddigwydd.”

Mae Vodafone hefyd yn gweithio'n frwd gyda Phrifysgol Abertawe i fynd i'r afael ag allgau digidol yn yr ardal trwy ddarparu 3,000 o gardiau SIM a ddosberthir gan y Brifysgol i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn yr ardal leol. Yn ogystal, bydd Vodafone yn archwilio cyfleoedd pellach ar gyfer y rhwydwaith 5G yn y rhanbarth, mewn meysydd fel datgarboneiddio ac ynni gwyrdd. 

Uchelgais y prosiect £2.8 miliwn yw trawsnewid galluoedd yn y sector hwn trwy i gyrff yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus gydweithio ynghyd ag arbenigedd academaidd allweddol.

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd sy'n arwain y prosiect: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gael y cyfle i ddatblygu'r fainc arbrofi unigryw hon o ran arloesi. Rydym yn ddiolchgar i Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe am ein galluogi i ddarparu adnodd sylweddol i'r rhanbarth ac i Gymru. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ein partner technoleg, Vodafone, i'r prosiect a Chyngor Abertawe a'n partneriaid GIG.

“Ein huchelgais yw y bydd yr amgylchedd ymchwil ac arloesi yr ydym yn ei greu yn sicrhau manteision gwirioneddol i'r gymuned leol yn ogystal ag i'r GIG a chwaraeon”.

Campysau oedd y cyntaf i dderbyn cyllid drwy ein Cronfa Arloesi 5G, ond mae gennym brosiectau cyffrous eraill ar y gweill ar draws ystod o sectorau allweddol gan gynnwys technoleg amaethyddol, diwydiannau creadigol, ynni, gweithgynhyrchu uwch a mwy. Mae rownd gyntaf Cronfa Arloesi 5G y Rhaglen Seilwaith Digidol ar agor ar hyn o bryd i holl brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a chyrff sector cyhoeddus y rhanbarth, tan fis Mawrth 2024.

image