Menter Sgiliau a Thalentau

Nod y prosiect Sgiliau a Thalentau yw rhoi ateb rhanbarthol i nodi a darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer pob un o brosiectau'r Fargen Ddinesig.

Drwy gydweithio â phartneriaid o'r sector preifat, addysg uwch ac addysg bellach, ysgolion a'r trydydd sector, bydd tîm y prosiect yn nodi'r diffygion yn y ddarpariaeth bresennol ac yn pennu'r sgiliau a'r hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer myfyrwyr, athrawon a darlithwyr, yn awr ac yn y dyfodol.

Wedyn bydd atebion addysgu a hyfforddi pwrpasol yn cael eu cyflwyno, a fydd yn cyd-fynd ag anghenion y diwydiant a themâu allweddol y Fargen Ddinesig. Bydd y buddsoddi'n cynnwys cyllid ar gyfer prynu offer a datblygu cyrsiau i gefnogi'r prosiectau.

Statws: Achos busnes wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.