Mae uwch-reolwyr Ambassador Theatre Group (ATG), a fydd yn gweithredu'r arena ar ôl iddi agor, yn dweud bod perfformwyr gan gynnwys Snow Patrol, Ronnie Wood a Pet Shop Boys ymhlith y rhai sy'n rhan o'i rwydwaith o leoliadau ledled y byd.

Mae eraill yn cynnwys Kelly Jones, Sinéad O'Connor ac Emeli Sandé.

Mae Buckingham Group, sef y prif gontractwr, bellach wedi dechrau gweithio ar yr arena dan do ddigidol â lle i 3,500 o bobl sydd ar safle ger yr LC yng nghanol dinas Abertawe.

Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am gynlluniau'r arena a bydd yr atyniad hefyd yn cael ei gyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn.

Mae'r cyngor ac ATG yn trafod yr hyn y bydd yr arena yn ei gynnig er mwyn sicrhau ei bod yn ategu rhaglenni a gynigir gan leoliadau eraill yn Abertawe, gan helpu i gynnal yr adloniant o ansawdd uchel sydd ar gael i gynulleidfaoedd amrywiol.

Dywedodd Katy Arnander, Cyfarwyddwr Datblygu Cynnwys ATG: “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ychwanegu Abertawe at ein portffolio o leoliadau. Mae'r arena ar raddfa fawr ac mewn safle da i ddenu perfformwyr cyffrous.

“Ar hyn o bryd, rydym yn gweithredu 31 o leoliadau ledled y DU, ac yn cyflwyno llawer o berfformwyr enwog ym myd cerddoriaeth a chomedi bob blwyddyn.

“Fel sefydliad rhyngwladol, sydd â rhagor o leoliadau yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen, rydym hefyd yn gweithio gyda hyrwyddwyr ar draws ein rhwydwaith sy'n ein galluogi i gael mynediad i rai o'r sêr mwyaf.”

Dywedodd Claire Dixon, Rheolwr Busnes y DU ATG: “Mae hwn yn gyfle hynod o gyffrous i ni.

“Bydd gan yr arena dan do amlbwrpas yn Abertawe gyfleusterau gwych ar gyfer cerddoriaeth, adloniant, digwyddiadau chwaraeon ac arddangosfeydd, ond rydym hefyd yn bwriadu denu digwyddiadau digidol mawr fel cynadleddau, e-gemau a digwyddiadau lansio cynnyrch.

“Bydd yr arena yn gallu cynnal digwyddiad ar ffurf cynhadledd ar gyfer hyd at 750 o bobl mewn awditoriwm 'theatr' wedi'i adeiladu dros dro yn y lefel uchaf. Ac yn ogystal â'r awditoriwm ar gyfer sesiynau llawn, bydd yr arena hefyd yn darparu ystafelloedd cyfarfod a llecynnau ymneilltuo cysylltiedig, a hynny er mwyn cynnig hyblygrwydd."

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae'r rhain yn ddyddiau cyffrous i Abertawe. Mae atyniadau fel yr arena yn rhan o gynlluniau ehangach i roi bywyd newydd i ganol y ddinas, a fydd o fudd i fasnachwyr presennol, yn creu mannau o ansawdd uchel i fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, ac yn creu swyddi â chyflog da a chyfleoedd i bobl leol.

“Bydd datblygiadau o'r math hwn hefyd yn gatalydd ar gyfer twf economaidd pellach, ac mae nifer y craeniau uwchben y ddinas ar hyn o bryd yn dangos bod y sector preifat yn buddsoddi yn Abertawe mewn ffordd nad yw wedi'i gwneud ers blynyddoedd lawer.”

Mae prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig hefyd yn cynnwys sgwâr digidol y tu allan i'r arena, pentref digidol ar Ffordd y Brenin ar gyfer busnesau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg a materion digidol, a phentref blychau a rhodfa arloesi ar gyfer cwmnïau newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (SA1).

Mae'r arena hefyd yn rhan o gynllun adfywio Canol Abertawe sy'n cael ei arwain gan Gyngor Abertawe. Bydd cam dau Canol Abertawe yn cynnwys hwb newydd i'r sector cyhoeddus, ynghyd â siopau a bwytai newydd a datblygiadau eraill.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £1.3 biliwn mewn prosiectau trawsnewidiol ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Mae'r Fargen Ddinesig, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r Fargen Ddinesig yn werth £1.8 biliwn a bydd yn creu mwy na 9,000 o swyddi o werth uchel ar gyfer yr economi ranbarthol yn y blynyddoedd i ddod.