Mae hyn yn gam sylweddol ymlaen i'r prosiect, a fydd yn galluogi META i gefnogi profion llif tonnau a llanw, yn ogystal â phrofi cydrannau gwynt arnofiol.

Gyda'r gwasanaethau newydd hyn, bydd yn gweithredu fel canolfan arloesi allweddol ar gyfer ymchwil i weithgarwch ehangach yr economi las. 

Mae META Cam 2 yn cynnig wyth safle profi a gymeradwywyd ymlaen llaw a leolir o fewn neu gerllaw Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar gyfer gweithgarwch hygyrch o ran profi'r môr.

Mae hefyd yn darparu cyfleuster pwrpasol ar gyfer ymchwil ac arloesi. 

Dywedodd Bethan Simes, rheolwr prosiect META: "Penllanw tair blynedd o waith caled yw'r cyhoeddiad hwn, felly rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau ein trwydded forol ar gyfer META Cam 2.

"Bellach mae gennym wyth safle profi a gymeradwywyd ymlaen llaw sydd â chwmpas eang o baramedrau profi ac felly gallwn gynnwys amrywiaeth o ddyfeisiau a senarios profi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau croesawu ein cwsmeriaid cyntaf a rhoi offer yn y dŵr. 

"Diben META yw lleihau'r amser, y gost a'r risgiau y mae datblygwyr ynni'r môr yn eu hwynebu i gyflymu datblygiad yn y sector, ac ni fu adeg pan oedd y twf hwn yn fwy hanfodol.  

"Mae META yn darparu cam hanfodol o brofi tanciau i brosiectau masnachol, gan gefnogi uchelgeisiau i'r DU barhau i chwarae rhan flaenllaw fyd-eang ym maes ynni adnewyddadwy'r môr, yn ogystal ag ategu rhwydwaith presennol canolfannau profi y DU.  

"Hoffwn ddiolch i'n hymgynghorwyr amgylcheddol, RPS, am eu cefnogaeth o ran ein ceisiadau am ganiatâd, ynghyd â CNC am brosesu ein cais a thîm ehangach Ynni Môr Cymru am ei gefnogaeth yn y broses hon."

Y Drwydded Forol hon, a roddwyd gan dîm Trwyddedu Morol CNC, yw'r drwydded gyntaf a ddyfarnwyd ers sefydlu Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr CNC.

Mae prosiect META gwerth £1.9m yn cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chronfa Cymunedau'r Arfordir. 

Yn ogystal â chynnig safleoedd ar gyfer profi offer ynni'r môr, bydd META hefyd yn cefnogi ymchwil ac arloesi a phrosiectau methodolegau monitro, gan weithio'n agos gyda phrifysgolion Cymru a Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni'r Môr (MEECE) a arweinir gan ORE Catapult. 

Mae META a MEECE yn rhan o Ardal Forol Doc Penfro, sef prosiect cydweithredol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a fydd yn datblygu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer datblygu ynni'r môr yn Sir Benfro. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys Parth Arddangos Sir Benfro a gwaith uwchraddio seilwaith ym Mhorthladd Penfro. 

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn naw rhaglen a phrosiect trawsnewidiol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.