Wrth wraidd y sector creadigol yn ne-orllewin Cymru, y mae Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.

Dywed Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr newydd Whisper Cymru, fod uno ei chwmni Lens 360 yn ddiweddar gyda Whisper – rhwydwaith byd-eang o arbenigwyr cynhyrchu, ôl-gynhyrchu a darlledu – yn enghraifft arall o lwyddiant parhaus i'r diwydiannau creadigol ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Dywedodd Carys: "Rwy'n dod o Nantgaredig, astudiais gerddoriaeth a'r cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, rwy'n byw ym Mhontyberem ac wedi dilyn gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol yn ne-orllewin Cymru. 

"Roedd Lens 360 yn un o denantiaid cyntaf Canolfan S4C yr Egin - y ganolfan greadigol a digidol yng Nghaerfyrddin - pan agorodd yn 2018 ac aeth y cwmni o nerth i nerth, gan gyflogi pum person lleol a gweithio gyda rhai o'r sêr mwyaf yn y byd chwaraeon a cherddoriaeth."

Cyn uno â Whisper Cymru, ffilmiodd a golygodd Lens 360 'Return to Rockfield', sy'n dathlu 25 mlynedd ers recordio albwm eiconig Oasis 'What's the Story, Morning Glory?' yn Stiwdios Rockfield yn Sir Fynwy.

Cafodd y rhaglen ddogfen – sydd wedi cael ei gwylio dros filiwn o weithiau ar YouTube ers mis Hydref 2020 - ei dangos am y tro cyntaf ar MTV yn gynharach ym mis Chwefror.

Dywedodd Carys: "Mae canfyddiad bod yn rhaid i chi adael de-orllewin Cymru i weithio ar brosiectau mawr yn y diwydiannau creadigol, ond mae ein gwaith yn dangos nad yw hynny'n wir.

"Cafodd ein cynhyrchiad gyda Oasis ei wneud yn Yr Egin ac yn ein cartrefi yn ystod y cyfyngiadau symud, gyda'r Egin yn darparu cysylltedd digidol o'r ansawdd gorau a'r cyfle i rwydweithio â busnesau eraill yn y sector creadigol."

Roedd uno â Whisper - un o'r cwmnïau cynhyrchu chwaraeon mwyaf yn Ewrop – yn gam naturiol i Lens 360, ar ôl iddynt gydweithio i ddarparu darllediad o Gwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Japan i S4C.

Mae gan Whisper Cymru hefyd aelod o staff sydd bellach yn rhan o 'swigen' tîm rygbi Cymru, sy'n darparu lluniau neu fideos i ddarlledwyr a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Undeb Rygbi Cymru drwy gydol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd Whisper Cymru, dan arweiniad Carys, yn cadw swyddfa Lens 360 yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Carys:  "Mae golwg a naws yr Egin yn addas i ni. Rydym yn gwneud llawer o gynnwys ar gyfer brandiau mawr, felly mae cael cyfleuster o'r ansawdd gorau ar ein stepen drws yn creu mwy o hygrededd o ran cyfarfodydd comisiynu a chyfarfodydd gyda chleientiaid.

"Ddegawd ar ôl i mi raddio, mae gan y diwydiannau creadigol ganolfan yma yn Sir Gaerfyrddin ac mae'r Brifysgol yn strwythuro cyrsiau newydd ar gyfer y sector creadigol i ddiwallu'r angen.

"Bydd hyn yn ysbrydoli mwy o bobl i ymuno â'r sector, gan fod de-orllewin Cymru hefyd yn cynnig cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith na all llawer o leoedd eraill ei gynnig."

Mae pencadlys S4C a nifer o fusnesau eraill yn y sector creadigol yn Yr Egin.

Dywedodd Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin: "Mae Carys Owens yn arloeswraig ac yn enghraifft o sut y gallwch ddatblygu busnes sydd â chyrhaeddiad rhyngwladol o dde-orllewin Cymru, ond mae gan y llwyddiant hwn lawer o wreiddiau yn Yr Egin. Bydd y sector creadigol yn chwarae rhan allweddol yn adferiad economaidd de-orllewin Cymru yn dilyn Covid-19 ac mae gan y rhanbarth yr holl elfennau i gefnogi'r twf hwn.

"Mae'r cyfuniad o'r cysylltedd sydd eisoes ar gael yn Yr Egin ochr yn ochr â rhaglen seilwaith digidol y Fargen Ddinesig yn golygu bod Dinas-ranbarth Bae Abertawe bellach mewn gwell sefyllfa nag erioed i ddiwallu anghenion y diwydiannau creadigol.

"Yn ogystal â swyddfeydd o ansawdd uchel yn Yr Egin, mae gennym hefyd gyfleusterau golygu a sgrin werdd o'r radd flaenaf, ynghyd â gweithfannau cyfleus a chyfleusterau recordio cerddoriaeth.

"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweithio yn y sector creadigol i gysylltu gan fod cymaint o gyfleusterau yn Yr Egin y gallent elwa arnynt, yn ogystal â chysylltiadau o fewn cymuned greadigol y rhanbarth."

Mae ail gam Yr Egin hefyd yn cael ei gynllunio. Mae'n un o blith naw prosiect a rhaglen yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.