Mae'r adolygiad – a gynhaliwyd gan Actica Consulting ar gyfer Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – yn dweud bod yr achosion busnes ar gyfer clwstwr digidol creadigol 'Yr Egin' yng Nghaerfyrddin ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau yn 'addas i'r diben'.

Bellach dylai uwch-swyddogion Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol geisio cymeradwyo'r prosiectau hyn yn ddi-oed, yn ôl yr adolygiad.

Bydd Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, a fydd yn costio £168.2 miliwn, yn cynnwys arena dan do ddigidol â 3,500 o seddau a plaza digidol ar safle maes parcio LC. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys creu pentref digidol 100,000 troedfedd sgwâr ar gyfer busnesau technoleg yn Ffordd y Brenin, yn ogystal â phentref blychau 28,000 troedfedd sgwâr a rhodfa arloesi 64,000 troedfedd sgwâr ar gyfer cwmnïau newydd ar gampws newydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1.

Ar ôl cymeradwyo achos busnes y prosiect, bydd swm o £50m yn cael ei gyfrannu fel rhan o'r Fargen Ddinesig gan y naill lywodraeth a'r llall.

Cafodd cam un o ddatblygiad diwydiannau creadigol ‘Canolfan S4C Yr Egin’ ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei agor yn swyddogol ddiwedd y llynedd. Yng nghanol y datblygiad 4,000 metr sgwâr, sydd eisoes bron yn llawn, y mae pencadlys newydd S4C.

Mae ail gam y prosiect hefyd yn cael ei gynllunio, a fydd yn ychwanegu 4,250 metr sgwâr o arwynebedd llawr masnachol ar gyfer busnesau'r sector creadigol.

Byddai cyllid y Fargen Ddinesig o £5 miliwn yn cyfrannu at £24.3 miliwn o ran cost gyffredinol y prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Rydym yn croesawu canfyddiadau'r adolygiad annibynnol a chefnogaeth barhaus y ddwy lywodraeth i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

“Byddwn bellach yn mynd ati i gytuno ag argymhellion yr adolygiad a'u rhoi ar waith, sy'n dystiolaeth o'n hymrwymiad parhaus i gyflawni rhaglen fuddsoddi sy'n werth £1.8 biliwn a mwy na 9,000 o swyddi ar gyfer De-orllewin Cymru.

“Mae'r gwaith ar arena dan do ddigidol ac elfennau plaza digidol Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau i gychwyn yr haf hwn, felly rydym yn cytuno â chasgliad yr adolygiad ei bod yn hanfodol ymrwymo cyllid y Fargen Ddinesig yn y byrdymor er mwyn sicrhau bod modd rheoli atebolrwydd ariannol yr awdurdodau lleol o hyd.

“Rydym hefyd yn croesawu'r alwad i gymeradwyo cyllid y Fargen Ddinesig ar gyfer prosiect 'Canolfan S4C Yr Egin' yng Nghaerfyrddin yn fuan. Mae'r datblygiad hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo agor yr hydref diwethaf, ond mae llawer mwy i ddod yn sgil ail gam y prosiect sydd ar y gweill.

“Rydym yn barod i gwrdd â swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl i sicrhau bod y ddau brosiect cyffrous hyn yn cael eu cwblhau.

“Y cymeradwyaethau hyn fydd y cyntaf o nifer a fydd o fudd i drigolion a busnesau ym mhob cymuned sy'n rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.

Mae un o argymhellion eraill yr adolygiad yn nodi y dylai fod hyblygrwydd yn rhaglen y Fargen Ddinesig i ganiatáu i brosiectau newydd gael eu cynnig o bosib yn y dyfodol yn lle rhai o'r prosiectau presennol. Mae'r adolygiad yn dweud y byddai'r argymhelliad hwn yn atal y Fargen Ddinesig rhag sefyll yn ei hunfan, yn ogystal â rhoi cyfle i ystyried cyfleoedd newydd.

Argymhellir hefyd fod cyfarwyddwr rhaglen annibynnol yn cael ei benodi i roi adnodd ychwanegol pwrpasol i helpu i gyflymu'r gwaith o gyflawni'r Fargen Ddinesig. Mae’r argymhelliad hwn wedi cael ei adleisio gan adolygiad mewnol o'r Fargen Ddinesig.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: “Er i'r Fargen Ddinesig gael ei llofnodi gyntaf ym mis Mawrth 2017, roedd yr angen am i gytundeb cyfreithiol manwl gael ei ddrafftio a'i gymeradwyo gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a phob un o'r pedwar cyngor rhanbarthol yn golygu nad oedd cyfarfod ffurfiol cyntaf y Cyd-bwyllgor wedi cael ei gynnal tan ddiwedd mis Awst y llynedd.

“Felly, o ystyried bod y Fargen Ddinesig yn dal mewn cyfnod cynnar, comisiynodd y Cyd-bwyllgor ein hadolygiad mewnol ein hunain a fyddai'n cael ei gynnal ochr yn ochr â'r adolygiad annibynnol i sicrhau bod ein trefniadau llywodraethu yn ddigon cadarn.

“Mae'r ddau adolygiad yn argymell penodi cyfarwyddwr rhaglen annibynnol ar gyfer y Fargen Ddinesig, a fyddai'n rhoi cymorth ac adnodd pwrpasol ychwanegol i bartneriaid er mwyn i'r gwaith ar brosiectau ledled y rhanbarth symud ymlaen yn gyflymach.

“Rydym hefyd yn croesawu'r argymhelliad ynghylch sicrhau bod rhaglen y Fargen Ddinesig yn fwy hyblyg. Mae hyn yn cyd-fynd â'n cais cyson i gynnwys prosiectau newydd yn y Fargen Ddinesig os ydynt yn fuddiol ar gyfer y rhanbarth.

“Yn ystod yr adolygiadau hyn, mae'r gwaith wedi parhau ar bob un o brosiectau'r Fargen Ddinesig. Nid yw'r Fargen Ddinesig wedi cael ei dal yn ôl mewn unrhyw ffordd, er ein bod bellach mewn sefyllfa i wneud llawer mwy o gynnydd yn y misoedd nesaf.”

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar cyngor rhanbarthol – Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe – mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Lawrlwytho Adolygiad