Mae angen cadeirydd ar gyfer Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru, sy'n gweithio gyda busnesau a darparwyr addysg i hybu sgiliau ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Dylai'r ymgeiswyr feddu ar wybodaeth am unrhyw sectorau diwydiannol rhanbarthol neu brofiad o'r diwydiannau hynny, sy'n cynnwys gweithgynhyrchu, ynni, adeiladu, hamdden a thwristiaeth, rheoli tir a bwyd, iechyd a gofal cymdeithasol, y diwydiannau creadigol, a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

Bydd y cadeirydd yn helpu i arwain y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar ei gwaith parhaus i nodi dyheadau busnesau rhanbarthol a gweithluoedd presennol ac yn y dyfodol, gan sicrhau bod dysgu a sgiliau yn diwallu anghenion economaidd a chymdeithasol sy'n newid.

Mae rôl y cadeirydd, sy'n wirfoddol, yn cynnwys ymrwymiad o tua 12 diwrnod y flwyddyn.

Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru: "Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, sydd hefyd yn arwain ar y fenter Sgiliau a Thalentau a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn rhan ganolog o'r dirwedd sgiliau ranbarthol, gan helpu i sicrhau bod anghenion ein cyflogwyr a'n gweithlu yn cael eu diwallu nawr ac yn y dyfodol.

"Bydd rôl cadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn rhoi cyfle i helpu i sbarduno newid yn y blynyddoedd i ddod er mwyn helpu i greu dyfodol gwell i'n trigolion, ein busnesau a'n gweithwyr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe drwy gynrychioli ein cyflogwyr.

"Ynghyd â gwybodaeth am unrhyw un o'r sectorau diwydiannol rhanbarthol allweddol, dylai ymgeiswyr hefyd allu dangos profiad o weithio mewn partneriaeth ynghyd â'r gallu i gyfleu negeseuon cymhleth i amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, ar adeg pan mae sgiliau a hyfforddiant mor hanfodol i helpu gydag adferiad economaidd rhanbarthol yn dilyn Covid-19."

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, anfonwch eich CV at jelewis@sirar.gov.uk  erbyn 26 Mawrth.

Mae gwaith arall y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol  yn cynnwys casglu a rhannu data cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol, ynghyd â chyhoeddi Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol.