Mae'r cynllun – a elwir bellach yn Bentre Awel – wedi'i gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae hyn yn dilyn cymeradwyaeth y prosiect gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a chymeradwyaeth unfrydol yn y Cyngor Llawn.

Ar safle 83 erw yn y Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli, Pentre Awel fydd y datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru.

Bydd Pentre Awel yn darparu cyfleusterau cyhoeddus, academaidd, busnes ac iechyd ar un safle i hybu cyflogaeth, addysg, darpariaeth hamdden, ymchwil a darpariaeth iechyd, a sgiliau a hyfforddiant.

Bwriedir i'r prosiect gynnwys cyfleusterau gofal integredig ac adsefydlu corfforol er mwyn galluogi'r gwaith o brofi a threialu technolegau gwyddor bywyd sydd â'r nod o wella byw'n annibynnol a byw â chymorth.

Bydd elfen canolfan hamdden y prosiect sy'n cael ei rhedeg gan y cyngor yn cynnwys campfa arloesol, pwll nofio 25 metr, pwll dysgwyr a man chwarae dan do.

Yn ogystal â rhoi miliynau o bunnau i'r economi leol, bydd Pentre Awel hefyd yn creu ystod eang o gyfleoedd gwaith ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyffredinol.

Mae Pentre Awel yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau.

Mae'r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned i sicrhau bod y prosiect yn darparu ar gyfer yr anghenion o ran gwaith, iechyd a gofal a nodwyd ac a flaenoriaethwyd gan breswylwyr lleol drwy ymgynghori'n helaeth.

Bydd Pentre Awel yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn, gyda chyfanswm o £40 miliwn yn cael ei geisio ar gyfer y prosiect.

Ar ôl cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor, bydd achos busnes y prosiect yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo'n derfynol.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae Pentre Awel yn brosiect nodedig cyffrous – nid yn unig i Lanelli a Sir Gaerfyrddin, ond i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyffredinol, oherwydd y cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel a'r hwb economaidd y bydd yn eu creu, gan helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad yn y dyfodol.

“Gyda chyfleusterau hamdden, busnes, byw â chymorth ac iechyd o'r radd flaenaf ar un safle, mae'n brosiect a fydd yn darparu ar gyfer pobl leol, gan roi Llanelli a Sir Gaerfyrddin ar y map fel enghraifft fyd-eang o arferion gorau ar gyfer rhagoriaeth ym maes gwyddor bywyd a llesiant.

“Mae pwysigrwydd a pherthnasedd y prosiect hwn wedi'u hatgyfnerthu ymhellach drwy argyfwng Covid-19. Bydd yn helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau ym maes iechyd a gofal, gan fanteisio hefyd ar ddatblygiadau digidol o ran darparu gofal iechyd gartref neu yn y gymuned.

“Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni'r prosiect hwn, a fydd bellach yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo'n derfynol ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor.”

Bydd prosiect Pentre Awel hefyd yn cynnwys canolfan sgiliau sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, ynghyd â chanolfan darpariaeth glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaethol yn nes at adref.

Bydd yn cynnwys llety byw â chymorth hefyd, ynghyd â chartref nyrsio, gwesty, gofod ehangu i fusnesau, ac elfennau o'r farchnad agored a thai cymdeithasol a fforddiadwy. Bydd mannau awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden ar y safle yn elwa o olygfeydd ysblennydd ar draws Aber Llwchwr a Bae Caerfyrddin.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.