Mae'r prif gontractwr, Buckingham Group Contracting Ltd, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, eisiau manteisio ar y defnydd o arbenigedd lleol a rhanbarthol.

Mae 10 pecyn gwaith ar gael, gyda chyfanswm gwerth o bron £2m. Mae gwerth y pecynnau gwaith unigol yn dechrau o £10,000.

Maent yn cynnwys gwasanaethau glanhau/glanhau i adeiladwyr, tirlunio, gwaith mastig, gosod asffalt, cyflenwi a gosod celfi stryd, gosod ffensys, gatiau a rhwystrau, a gosod llinellau gwyn.

Bydd dadansoddiad llawn o'r rhain a'r pecynnau gwaith unigol llai ar gael mewn digwyddiad rhithwir 'cwrdd â'r prynwr' i fusnesau.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Buckingham Group a'r cyngor mewn cydweithrediad â gwasanaeth Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru, CITB (Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu) a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher 11 Tachwedd.

Y drefn fydd cyfarfodydd un i un a drefnir ymlaen llaw am 15 munud yr un ac a gyflwynir drwy feddalwedd fideo-gynadledda Microsoft Teams.

Mae'r digwyddiad ar gyfer contractwyr sy'n gallu cyflwyno cynnig penodol ar gyfer y pecynnau a hysbysebir.

Bydd Cam Un Canol Abertawe yn cynnwys arena dan do â 3,500 o seddi, parc arfordirol, pont nodedig, maes parcio, cartrefi a safleoedd masnachol ar safle allweddol yng nghanol y ddinas.

Mae'n cael ei lywio a'i ariannu gan Gyngor Abertawe. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn yn ariannu'r arena'n rhannol, ac mae Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn ariannu'r bont yn rhannol.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Rydym yn darparu cyfleoedd i gwmnïau lleol drwy'r cynllun trawsnewid hwn ac mae hynny wedi digwydd drwy gydol y cyfnod adeiladu.

"Mae busnesau Cymru yn dod o hyd i waith ar y prosiect adfywio hwn o'r radd flaenaf. Rwy'n annog busnesau eraill i fynychu'r digwyddiad 'cwrdd â'r prynwr' ar-lein hwn.

"Disgwylir i Buckingham Group roi pob cyfle posibl i gwmnïau Cymru."

Ewch i http://bit.ly/MTBSwansea i archebu lle.