Penodwyd Gareth Jones o Gaerfyrddin yn rheolwr prosiect Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Mae'r prosiect £55 miliwn yn cynnwys tair elfen:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin – lle mae Gareth wedi gweithio ers 2005 – yn arwain y prosiect Seilwaith Digidol, a fydd hefyd yn cefnogi pob un o ddatblygiadau eraill y Fargen Ddinesig.

Swydd ddiweddaraf Gareth, sy'n 38 oed, oedd Rheolwr Trawsnewid Digidol y Cyngor, ac mae'n dweud bod ei rôl newydd yn gyfle i gyfrannu i drawsnewidiad economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ei gyfanrwydd.

“Mae cael rheoli prosiect Seilwaith Digidol y Fargen Ddinesig yn gyfle penigamp,” medd Gareth, sy'n dad i ddau o blant.

"Mae cysylltedd digidol yn sail i bopeth a wnawn erbyn hyn, felly mae hwn yn gyfle i'r Dinas-ranbarth achub y blaen drwy gyflwyno seilwaith digidol o ansawdd da iawn a fydd o fudd sylweddol i'r holl drigolion a busnesau yn y blynyddoedd i ddod, gan helpu hefyd i ddenu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad a swyddi ar y un pryd.

"Y bwriad yw sicrhau seilwaith digidol o'r radd flaenaf ar gyfer ardaloedd trefol a pharthau twf economaidd allweddol a nodwyd gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol, er mwyn cefnogi busnesau, mentrau ac entrepreneuriaeth ymhellach. Bydd thema wledig y prosiect yn gwella cysylltiadau digidol ar gyfer ein cymunedau gwledig nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol ar hyn o bryd.

"Bydd darparu technoleg a seilwaith rhwydwaith blaenllaw ar hyd prif lwybr trafnidiaeth y rhanbarth yn cefnogi busnesau sy'n agos at y cysylltiadau cyfathrebu hanfodol hyn, gan arwain hefyd o bosibl at 'ffyrdd clyfar' a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i wneud gyrru'n fwy diogel, yn fwy cydnaws â'r amgylchedd, ac yn fwy effeithlon.”

Mae'r achos dros seilwaith digidol arloesol yn gryf dros ben yn ôl Gareth.

Dywedodd: “Gall cynifer o sectorau elwa ar gysylltedd digidol o'r radd flaenaf – boed yn dechnoleg a fydd yn galluogi dinasoedd a threfi 'clyfar', ffermio yn yr 21ain ganrif, gofal iechyd rhithwir i fonitro cleifion, neu'r gallu i reoli dyfeisiau gwres, golau a diogelwch yn eich cartref neu weithle pan nad ydych chi yno.

"Byddai llawer o deuluoedd y dyddiau hyn yn ei chael hi'n anodd heb gysylltedd yr 21ain ganrif, ac mae hynny'n mynd i ddod yn fwyfwy cyffredin wrth i dechnolegau digidol barhau i ddatblygu ac wrth i wasanaethau cyhoeddus gael eu darparu'n ddigidol.

“Bydd y prosiect hwn yn diogelu seilwaith digidol Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau bod ein holl gymunedau - gwledig a threfol - yn y safle gorau posib i fanteisio ar arloesedd technolegol pellach sy'n sicr o ddod yn y dyfodol agos.”

Mae achos busnes manwl yn cael ei lunio ar hyn o bryd, cyn i'r prosiect Seilwaith Digidol gael ei ystyried gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig yn y misoedd nesaf.

Os caiff achos busnes y prosiect ei gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor, bydd yn cael ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo'n derfynol.

Mae'r Fargen Ddinesig, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r rhaglen fuddsoddi werth £1.8 biliwn i'r Dinas-ranbarth, a bydd mwy na 9,000 o swyddi â chyflogau da yn dod yn ei sgil.