Nod yr egwyddorion caffael, sydd wedi'u cymeradwyo gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig, yw sicrhau bod buddsoddiad £1.3 biliwn y Fargen Ddinesig yn aros mor lleol â phosibl drwy gefnogi busnesau lleol a swyddi lleol ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Bydd tîm y Fargen Ddinesig yn gweithio gyda phob prosiect y Fargen Ddinesig a'u contractwyr penodedig i hyrwyddo a darparu digwyddiadau cwrdd â'r prynwr a gweithgareddau eraill.

Bydd hyn yn adeiladu ar waith a chymorth presennol gan dimau caffael ar draws y rhanbarth sydd eisoes yn gweithio i sicrhau manteision i fusnesau, preswylwyr a chymunedau rhanbarthol.

Bydd tîm y Fargen Ddinesig hefyd yn cynnal digwyddiadau a gweithdai caffael ar gyfer ei dimau prosiect a'i bartneriaid prosiect, gan godi cymaint o ymwybyddiaeth gynnar â phosibl o gyfleoedd i wneud cais am waith.

Pryd bynnag y bo'n bosibl ac yn briodol, mae'r egwyddorion yn annog rhannu contractau prosiect gwerth uchel y Fargen Ddinesig yn becynnau gwaith llai er mwyn galluogi busnesau llai i elwa hefyd.

Mae Alan Brayley, Llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe, wedi croesawu'r egwyddorion.

Dywedodd: “Bydd y Fargen Ddinesig yn darparu buddsoddiad sydd mawr ei angen yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, a fydd yn arbennig o bwysig o ran adferiad economaidd rhanbarthol o Covid-19.

“Ond yr hyn sydd yr un mor bwysig yw bod busnesau a chymunedau rhanbarthol yn elwa o'r prosiectau mawr sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig. Mae cadw'r bunt yn lleol yn gwbl hanfodol er mwyn tyfu ffyniant economaidd ymhellach yn ne-orllewin Cymru.

“Dyma pam mae gweithredu cyfres o egwyddorion caffael y Fargen Ddinesig yn gam pwysig ymlaen. Mae gan gynifer o fusnesau ledled y rhanbarth y wybodaeth a'r sgiliau i gyfrannu at adeiladu prosiectau'r Fargen Ddinesig, felly mae'n hanfodol eu bod yn cael pob cyfle posibl i elwa.”

Dywedodd Chris Foxall, Cadeirydd Bwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig: “Rydym yn ceisio creu swyddi cynaliadwy, diwydiannau newydd a gwell a denu mewnfuddsoddiad drwy ein prosiectau'r Fargen Ddinesig. 

“Ffordd wych o sicrhau bod effaith yn cael ei theimlo ac yn aros yn y rhanbarth yw drwy gyfres o egwyddorion caffael sy'n cefnogi busnesau lleol. 

“Lle nad oes gennym yr arbenigedd na'r maint o fusnesau sydd eu hangen i ennill ceisiadau cystadleuol, bydd yr egwyddorion newydd yn gwella'r siawns o gael proses dendro lwyddiannus ar gyfer ein cadwyn gyflenwi leol.”

Bydd cynnydd caffael a manteision cymunedol yn cael eu monitro a'u hadrodd i arweinwyr y Fargen Ddinesig cyn bo hir er mwyn sicrhau effaith barhaus.

Datblygwyd egwyddorion caffael y Fargen Ddinesig mewn ymgynghoriad agos â chynrychiolwyr y diwydiant, aelodau Bwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig, arbenigwyr cyfreithiol a chaffael, cynrychiolwyr y trydydd sector a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.