Roedd Kathryn Austin, uwch-berchennog bwytai Pizza Hut yn y Deyrnas Unedig sy'n byw yng ngorllewin Cymru, a Catrin Jones, cydgyfarwyddwr Crwst, sef caffi a phopty yn Aberteifi sydd wedi ennill gwobrau, yn siaradwyr gwadd yn lansiad y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru.

Daeth cannoedd o fusnesau i'r digwyddiad lansio, a gynhaliwyd yng Nghae Rasio Ffos Las, Sir Gaerfyrddin. 

Llywiwyd y cynllun cyflogaeth a sgiliau newydd, a ddatblygwyd gan Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf, yn dilyn ymgynghoriad helaeth â'r gymuned fusnes. 

Gofynnwyd am farn cyflogwyr ynghylch y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar hyn o bryd, yn ogystal â'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol yn sgil buddsoddiadau sylweddol megis Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn, a Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Mae'r adroddiad wedi canfod y dylid gwella llwybrau dysgu a pharodrwydd yn y gweithle ar gyfer sectorau blaenoriaeth sy'n cynnwys diwydiannau digidol, creadigol, ynni, gweithgynhyrchu uwch, peirianneg, adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau ariannol, hamdden, twristiaeth a lletygarwch.

Lansiwyd y cynllun newydd yn swyddogol gan Lee Walters AC Llanelli, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Bydd canfyddiadau'r cynllun yn helpu i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid ar gyfer addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Economi a Thrafnidiaeth: "Rydym yn byw mewn cyfnod heriol ac ansicr ac am y rheswm hynny mae'n hanfodol fod blaenoriaethau rhanbarthol clir mewn lle ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.  Fel Llywodraeth, rydym eisiau gweld model o ddatblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar ranbarth a fydd yn annog twf ledled Cymru.

“Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn hanfodol i gyflawni hyn a bydd cynlluniau fel yr un a lansiwyd yn helpu i nodi'r meysydd a'r dalent y mae angen i ni eu datblygu dros y blynyddoedd i ddod er mwyn tyfu ein heconomi.”

Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr iawn gyfraniadau pawb a oedd yn bresennol yn y digwyddiad lansio, gan gynnwys Kathryn a Catrin, sy'n esiamplau da ac ysbrydoledig i bobl fusnes ac entrepreneuriaid.

"Bydd y cynllun hwn, a luniwyd ar sail adborth gan oddeutu mil o fusnesau, grwpiau clwstwr diwydiant a sefydliadau partner, yn helpu Llywodraeth Cymru i ddarparu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n bodloni anghenion dysgwyr, diwydiannau a darparwyr.

"Yn ogystal ag arwain gwaith y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol dros y tair blynedd nesaf, nod y cynllun hefyd yw gwella llesiant economaidd De-orllewin a Chanolbarth Cymru, gan gadw ein pobl ifanc dalentog yn yr ardal drwy greu cyfleoedd iddynt gael swyddi o safon uchel yn agos i'w cartref.

“Ond, yn ogystal â diwallu anghenion presennol busnesau, rydym hefyd wedi cynllunio beth fydd eu gofynion o ran sgiliau yn y blynyddoedd i ddod oherwydd ffactorau megis y galw pellach am sgiliau digidol, ynghyd â thwf sectorau sy'n cynnwys y diwydiannau creadigol, a buddsoddiadau mawr sydd ar y gweill megis Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Bargen Twf Canolbarth Cymru.

"Mae'n hanfodol bod dysgu, prentisiaethau a lleoliadau gwaith yn cyd-fynd ag anghenion y diwydiant lleol yn awr, ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y sectorau blaenoriaeth yr ydym wedi'u nodi.

“Dyma hefyd pam mae Menter Sgiliau a Thalentau yn rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, er mwyn sicrhau bod modd manteisio ar y cyfleoedd gwaith y bydd y rhaglen fuddsoddi yn eu creu.”

Cafodd dros 200 o fusnesau eu cynrychioli yn y digwyddiad lansio. Roedd Busnes Cymru a'r Adran Gwaith a Phensiynau ymhlith yr arddangoswyr, ac roedd Jisc, Red Rock International a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru wedi arwain gweithdai.

Roedd pedwar crefftwr prentis ifanc o Goleg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe a Choleg Sir Benfro hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, ar ôl iddynt gystadlu yn ddiweddar ym Mhencampwriaeth World Skills yn Kazan, Rwsia.

Dywedodd Mrs Lewis: "Mae cymaint o arloesedd yn digwydd ledled De-orllewin a Chanolbarth Cymru, gan gynnwys y prosiect rhanbarthol Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, datblygiad ceir sy'n cael eu pweru gan danwydd hydrogen ym Mhowys, twf y sector ynni morol yn Sir Benfro, ac ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i hyfywedd gwymon fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy.

"Dyma ychydig enghreifftiau o'r datblygiadau cadarnhaol iawn sydd naill ai ar waith neu ar y gweill, ond mae'r cynllun cyflogaeth a sgiliau newydd yn gyfrwng allweddol o ran cefnogi'r arloesi hwn i sicrhau bod y newidiadau hyn yn creu cymunedau lleol mwy ffyniannus."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.rlp.org.uk neu cysylltwch â'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol drwy ffonio 01554 742431.