Gallai dros 11,000 yn fwy o gartrefi yn Ne-orllewin Cymru elwa ar dechnoleg effeithlonrwydd ynni o'r radd flaenaf yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r cynlluniau yn rhan o brosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer sy'n cael ei arwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, sydd i'w gyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

O dan y cynlluniau, bydd y gwaith o ôl-osod 7,500 o adeiladau yn cyd-fynd â'r 3,500 o adeiladau newydd dros gyfnod o bum mlynedd ledled Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae'r prosiect rhanbarthol, Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, yn ceisio £15 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd i'w hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Yn sgil cyfarfod cadarnhaol ynghylch y prosiect yn gynharach yn yr haf eleni, bydd gweithdy Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer dilynol yn cael ei gynnal yn hwyrach y mis hwn rhwng arweinwyr y prosiect a chynrychiolwyr o'r ddwy lywodraeth.

Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i gael cymeradwyaeth ar gyfer cyllid y Fargen Ddinesig cyn gynted â phosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Mae hwn yn brosiect gwych a fydd yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i fusnesau cadwyn cyflenwi rhanbarthol, gan fynd i'r afael â thlodi tanwydd a diwallu'r angen am ragor o dai.

"Mae achos busnes ar gyfer y prosiect yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae trafodaethau cadarnhaol parhaus yn awgrymu ein bod yn agos at gael cymeradwyaeth.

"Gan ategu at gyfres ddiwygiedig o brosiectau'r Fargen Ddinesig - sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio - bydd y prosiect rhanbarthol hwn yn cyflawni arbedion ynni sylweddol ar gyfer miloedd o denantiaid a thrigolion.

"Ar ôl sicrhau cyllid gan y Fargen Ddinesig, bydd tîm ymroddedig y prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn canolbwyntio ar ei gyflawni dros gyfnod o bum mlynedd, gan helpu i godi proffil Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel enghraifft o arfer gorau ar gyfer y math hwn o arloesi."

Mae cyfres o gynlluniau tai sy'n canolbwyntio ar dechnoleg effeithlonrwydd ynni eisoes ar waith yn nifer o rannau yn Ne-orllewin Cymru, yn ôl y Cynghorydd Jones,

Mae'r rhain yn cynnwys prosiect ar gyfer 16 o Gartrefi Ynni Gweithredol yn Lle Wenham yng Nghastell-nedd sy'n cael ei gyflawni gan Grŵp Pobl mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe ym Mharc Ynni Baglan.

Mae ystâd dai newydd sy'n cynnwys cartrefi sy'n niwtral o ran carbon hefyd yn cael ei chynnig ar gyfer ardal Pontardawe dan arweiniad Sero Homes, sef cwmni adeiladu tai di-garbon o'r sector preifat.

Mae cynlluniau rhanbarthol eraill yn cynnwys datblygiad tai sy'n effeithlon o ran ynni yn ardal Penlan yn Abertawe, lle mae tenantiaid y Cyngor ar eu hennill yn sgil biliau ynni sy’n llai na £100 y flwyddyn, ac mae gwaith adeiladu ar yr ail gam yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd yng Ngellifedw.

Mae cynlluniau hefyd ar waith ar gyfer datblygiadau eco-gydnaws a gaiff eu hadeiladu gan gwmnïau lleol yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro a fydd yn lleihau costau ynni drwy ddefnyddio ynni'r haul, gan adeiladu ar gynlluniau sydd eisoes ar waith.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: "Mae gwaith gwych naill ai eisoes wedi'i gwblhau neu yn parhau ar nifer o safleoedd ledled y rhanbarth. Bydd y cynlluniau hyn yn sail i fanyleb y datblygiadau Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth i ni geisio dewis y modeli gorau sy'n effeithlon o ran ynni.

"Bydd y prosiect yn gweithio'n agos gyda'r sector cyhoeddus, y sector preifat a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i adeiladu ar raddfa a fydd yn lleihau costau, gan sicrhau cartrefi cadarnhaol o ran ynni yn y diwedd a fydd yn rhoi hwb i iechyd a llesiant pobl.

"Mae dyfodol y gwaith adeiladu tai yn rhanbarthol yn edrych yn gyffrous, diolch i brosiectau o'r math hwn."

Rhagwelir y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n cynnwys prosiectau trawsnewidiol ledled De-orllewin Cymru, werth £1.8 biliwn ac yn creu mwy na 9,000 o swyddi â chyflog da i'r economi ranbarthol. Mae'r rhaglen fuddsoddi yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.