Mae Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cymeradwyo achos busnes manwl ar gyfer prosiect Ardal Forol Doc Penfro gwerth £60 miliwn, a fydd bellach yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo'n derfynol.

Disgwylir y bydd Ardal Forol Doc Penfro, sydd dan arweiniad y sector preifat ac sy'n cael ei chefnogi gan Gyngor Sir Penfro, yn creu dros 1,800 o swyddi a bydd gwerth £73.5 miliwn y flwyddyn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Mae'r prosiect yn cynnwys pedair elfen:

Mae prosiect Ardal Forol Doc Penfro yn ceisio £28 miliwn gan raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn, a fyddai'n helpu i sicrhau £32 miliwn pellach o gyllid preifat a chyhoeddus.

Dywedodd Andy Jones, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau: "Mae'r iard longau yn Noc Penfro wastad wedi esblygu i fodloni anghenion y sector morol, gan fanteisio ar ein gweithlu medrus a'n hasedau sydd i'w cael yn naturiol i ysgogi mewnfuddsoddiad, cyrhaeddiad byd-eang a ffyniant economaidd.

"Mae ynni adnewyddadwy oddi ar yr arfordir bellach yn rhan o'r cyfuniad ynni prif ffrwd a bydd yn chwarae rhan hyd yn oed yn fwy wrth inni weithio tuag at ddatgarboneiddio erbyn 2050. Er mwyn i Sir Benfro a'r rhanbarth fanteisio, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym rywbeth i'w gynnig a all ddarparu ar gyfer anghenion datblygwyr technoleg a'u cadwyn gyflenwi.

"Bydd Ardal Forol Doc Penfro, a ariennir drwy'r Fargen Ddinesig, yn ysgogi'r datblygiad nesaf hwnnw, gan helpu busnesau presennol i dyfu drwy gyfleusterau addas i'r diben ar y tir a'r môr, ynghyd â chymorth arbenigol i ddatrys problemau cyffredin er budd pawb.

"Ardal Forol Doc Penfro yw'r sylfaen y bydd y cynnig hwn yn cael ei adeiladu arno, ac rydym yn croesawu'r cymorth ar bob lefel i sicrhau bod y prosiect hwn yn cyrraedd y cam cymeradwyaeth derfynol."

Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: "Mae cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor o ran Ardal Forol Doc Penfro yn gam mawr ymlaen ar gyfer y prosiect, felly byddem yn annog i'r ddwy lywodraeth roi cymeradwyaeth derfynol cyn gynted ag y bo modd er mwyn i gyllid y Fargen Ddinesig gael ei ryddhau.

"Bydd y prosiect hwn yn creu swyddi o safon uchel i bobl leol, yn ogystal â bod yn fuddiol i fusnesau'r gadwyn gyflenwi leol a rhoi hwb i economi Sir Benfro a Dinas-ranbarth Bae Abertawe cyfan.

"Mae'n ddatganiad o fwriad wrth i ni geisio adeiladu ymhellach ar enw da'r sir o ran arloesi drwy drawsnewid Sir Benfro yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer y sector ynni morol.

Bydd y prosiect hwn yn cydweithio â rhai eraill yn y rhanbarth sydd i'w hariannu'n rhannol gan y Fargen Ddinesig er mwyn ysgogi hyd yn oed yn rhagor o fuddsoddiad, twf economaidd a chyfleoedd am swyddi sy'n talu'n dda."

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r rhaglen fuddsoddi hon gwerth £1.8 biliwn i economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe a bydd yn creu dros 9,000 o swyddi yn y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod.