Ar ôl i adolygiad annibynnol ganfod bod ei achosion busnes yn addas i'r diben, mae Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe bellach wedi awdurdodi ailgyflwyno prosiectau 'Yr Egin' ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w cymeradwyo.

Un o argymhellion yr adolygiad annibynnol, a gomisiynwyd gan y ddwy lywodraeth, yw cymeradwyo'r ddau brosiect ar unwaith. Mae adolygiad mewnol hefyd wedi'i gwblhau er mwyn sicrhau bod rhaglen fuddsoddi'r Fargen Ddinesig yn cael ei chyflawni'n fuan, a fydd yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol ac yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd uchel yn y blynyddoedd i ddod.

Gan dderbyn yr holl argymhellion, mae'r Cyd-bwyllgor bellach wedi gofyn bod gwaith yn cael ei gyflawni o ran datblygu a gweithredu'r prosiectau cyn gynted ag y bo modd.

Ymhlith yr argymhellion eraill yr oedd penodi cyfarwyddwr rhaglen annibynnol ar gyfer y Fargen Ddinesig, ynghyd â sicrhau hyblygrwydd yn y Fargen Ddinesig i ganiatáu i rai prosiectau gymryd lle rhai o'r prosiectau presennol o bosib yn y dyfodol.

Yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor, pwysleisiwyd nad oes unrhyw un o brosiectau'r Fargen Ddinesig yn cael eu hatal. Mae hyn yn cynnwys y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi parhau i weithio ar fodel cyflawni arall ar gyfer y prosiect hwn, a fydd yn cael ei ailgyflwyno i'r Cyd-bwyllgor ei gymeradwyo maes o law.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig: “Rydym yn croesawu'r adolygiadau a chefnogaeth barhaus y ddwy lywodraeth i'r Fargen Ddinesig.

"Er bod llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud ers i'r Fargen Ddinesig gael ei llofnodi'n gyntaf, mae'r adolygiadau yn dangos ein bod dal yn y camau cyntaf o ran cyflawni'r Fargen Ddinesig.

"Gan fod yr holl bartneriaid yn parhau i ymrwymo i'r Fargen Ddinesig, bydd gwaith bellach yn cael ei gynnal i ystyried sut y gellir rhoi pob argymhelliad ar waith cyn gynted ag y bo modd.

"Ers i'r adolygiadau gael eu cyhoeddi, mae cyfarfodydd eisoes wedi'u cynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth i ni geisio sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer prosiectau 'Yr Egin' ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Bydd hyn yn gyrru'r cwch i'r dŵr ar gyfer rhaglen fuddsoddi a fydd yn trawsnewid bywydau pobl yn Ne-orllewin Cymru drwy greu swyddi â chyflog da, gwella sgiliau a hybu ffyniant economaidd."

Bydd gwaith manwl ar holl brosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn parhau wrth i ymdrechion i gael cymeradwyaeth i'r achosion busnes gan y ddwy lywodraeth symud yn eu blaenau.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar cyngor rhanbarthol mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.