Bydd y Fargen Ddinesig, sy'n werth £1.8 biliwn ac yn rhoi 9,000 o swyddi o ansawdd uchel i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe yn y blynyddoedd i ddod, yn helpu i ariannu cynllun o brosiectau mawr yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eisoes wedi rhyddhau £18 miliwn, sef swm cyntaf cyllid y Fargen Ddinesig, yn seiliedig ar gymeradwyo dau o brosiectau'r Fargen Ddinesig sef hwb creadigol a digidol Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.

Mae cynnydd mawr yn cael ei wneud hefyd o ran cyflawni nifer o delerau'r Llywodraeth ac argymhellion adolygiad y Fargen Ddinesig, a fydd yn helpu i sicrhau £18 miliwn arall eleni.

Mae prosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn cynnwys prosiect Seilwaith Digidol rhanbarthol a fydd yn hybu cysylltedd digidol mewn cymunedau gwledig a threfol. Mae datblygiad gwyddorau bywyd a llesiant a glustnodwyd ar gyfer Llanelli hefyd wedi'i gynllunio, ynghyd â phrosiect campysau gwyddorau bywyd.

Yn ôl y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae Covid-19 wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cael sectorau allweddol eraill gan gynnwys gwasanaethau iechyd, tai, ynni ac adeiladu, sy'n creu ein heconomi sylfaenol. 

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Bellach mae'n bwysicach nag erioed fod y gwaith o gyflawni Bargen Ddinesig Abertawe'n cael ei gyflymu er budd trigolion a busnesau ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, o gofio effaith economaidd Covid-19.

"Mae pwysigrwydd cysylltedd digidol wedi cael ei amlygu hyd yn oed yn fwy yn ystod argyfwng Covid-19, a bydd prosiect Seilwaith Digidol y Fargen Ddinesig yn gwella cysylltedd digidol ar draws y rhanbarth, gan helpu i sicrhau bod ein busnesau a'n cymunedau yn fwy gwydn.

"Mae'r 'normal' newydd hefyd yn rhoi cyfle i dyfu economi sylfaenol y rhanbarth ymhellach, gan annog rhagor o bobl i weithio o bell a defnyddio dulliau cynaliadwy eraill o deithio, a fydd yn cyfuno i fod o fudd i'r amgylchedd."

Dywedodd Ed Tomp, Cadeirydd Bwrdd Strategaeth Economaidd sector preifat Bargen Ddinesig Abertawe: "Mae angen mawr am fuddsoddiad y Fargen Ddinesig fel sbardun er mwyn rhoi hwb i adferiad economaidd y rhanbarth yn sgil Covid-19. Mae nifer o brosiectau trawsnewidiol yn ffurfio rhan o raglen a fydd yn datblygu sectorau ymhellach gan gynnwys gwyddorau bywyd, digidol ac ynni di-garbon i wneud Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn fwy cystadleuol yn economaidd, gan greu cyfleoedd cyflogaeth o werth uchel ar gyfer y bobl leol.

"Mae hyn yn hollbwysig gan y bydd yn creu dyfodol mwy disglair ar gyfer ein busnesau a'n trigolion, gan greu Dinas-ranbarth mwy bywiog a chryfach, lle y bydd ein talent ifanc yn gallu aros i ddilyn eu gyrfa a'u hamcanion mewn bywyd."

Mae prosiectau ynni'r Dinas-ranbarth yn cynnwys prosiect Ardal Forol Doc Penfro a fydd yn rhoi Sir Benfro a'r Dinas-ranbarth ar flaen y gad o ran arloesedd byd-eang ym maes ynni'r môr. Mae prosiect rhanbarthol Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn cael ei drefnu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan helpu'r ardal i gyflawni ei thargedau lleihau carbon.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'r rhaglen o brosiectau Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a diogelu'r sector cynhyrchu dur ar gyfer y dyfodol drwy greu canolfan arloesi dur. 

Mae menter Sgiliau a Thalentau ranbarthol hefyd ar y gweill i alluogi pobl leol i gael mynediad i swyddi sy'n cael eu cynhyrchu gan brosiectau'r Fargen Ddinesig.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Mae trafodaethau adeiladol yn parhau gyda'r ddwy lywodraeth ynghylch prosiectau mwyaf diweddar y Fargen Ddinesig a gyflwynwyd i gael eu cymeradwyo'n derfynol, gan gynnwys Ardal Forol Doc Penfro.

"Gan gadw at yr holl ganllawiau cadw pellter cymdeithasol, mae contractwyr hefyd yn ôl ar safle'r arena dan do sy'n ffurfio rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau wrth i adeiladwaith dur yr atyniad newydd ddechrau dod at ei gilydd.

"Er gwaethaf her Covid-19 na welwyd ei thebyg o'r blaen, dylai'r cynnydd hwn roi sicrwydd i fusnesau a thrigolion rhanbarthol fod partneriaid yn parhau i ganolbwyntio'n llwyr ar gyflawni'r Fargen Ddinesig cyn gynted â phosibl."

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r rhaglen fuddsoddi yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.