Mae Mainstay Marine Solutions - o Ddoc Penfro - wedi croesawu agoriad cam un Ardal Profi Ynni'r Môr (META) fel carreg filltir bwysig mewn ymgyrch barhaus i roi Cymru ar flaen y gad o ran economi las y byd.

Fel rhan o brosiect Ardal Forol Doc Penfro sydd i'w ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn, nod META yw helpu datblygwyr ynni'r môr ddefnyddio a datblygu eu technolegau ynni'r môr, a chael gwared â risgiau, o fewn Dyfrffordd Aberdaugleddau.

O dan arweiniad Ynni Môr Cymru, bydd META yn galluogi profion cynnar ar gyfer gweithredu dyfeisiau ynni'r môr yn fasnachol yn y dyfodol. Mae cam un yn cynnwys pum safle sy'n union gerllaw Porthladd Penfro.

Yn wreiddiol, roedd Mainstay Marine Solutions yn fusnes adeiladu cychod ond gwnaeth ymestyn i sector ynni adnewyddadwy'r môr tua phedair blynedd yn ôl, gan greu dyfais ynni'r môr ar gyfer Tidal Energy Ltd.

Yn ogystal ag addasu bad cludo dŵr o'r Ail Ryfel byd yn llong sy'n cynhyrchu ynni'r môr ar gyfer cwmni o'r enw Wave-Tricity, mae ei waith arall yn cynnwys cynhyrchu ac adeiladu dyfais ynni'r tonnau ar gyfer AMOG Consulting yn Awstralia.

Mae'r cwmni hefyd yn gweithio ar ddyfais trosi ynni'r môr 75 metr o hyd sydd â philenni sy'n curo i gynhyrchu trydan.

Dywedodd Charlotte Wood, Rheolwr Marchnata Datblygu Busnes yn Mainstay Marine Solutions: "Mae META yn bwysig iawn i ni oherwydd y bydd yn datblygu ymhellach ganolbwynt ynni'r môr yn Noc Penfro a fydd yn helpu i gael gwared â risgiau ar gyfer datblygwyr sy'n dod i'r rhanbarth drwy eu galluogi i brofi eu dyfeisiau ynni'r môr. Nes bod y dyfeisiau'n cael eu gwlychu, nid ydym yn gwybod pa broblemau fydd yn codi, felly mae META yn gyfle gwych i wneud hyn.

"Dŵr yw'r rhan fwyaf o arwyneb ein byd, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith i ddefnyddio ein môr gan ei fod yn cynnig adnodd ynni sy'n lân ac yn rhagweladwy.

"Mae Doc Penfro yn lleoliad perffaith i ddarparu mwy o gynhyrchion ynni'r môr oherwydd ein harbenigedd arfordirol a'r busnesau cadwyn gyflenwi lleol sydd ar gael, a fydd hefyd yn helpu i greu swyddi a mynd i'r afael ag amddifadedd.

"Mae de-orllewin Cymru eisoes yn arloesi yn sector ynni'r môr, ac mae cyfleusterau fel cam un META yn gyfle i ddatblygu ymhellach enw da byd-eang am arloesedd a rhagoriaeth ym maes ynni'r môr.

Mae prosiect META gwerth £1.9 miliwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ynghyd â Chronfa Cymunedau'r Arfordir.

Yn ogystal â chynnig safleoedd ar gyfer profi offer ynni'r môr, bydd META hefyd yn cefnogi ymchwil ac arloesi, gan weithio'n agos gyda phrifysgolion Cymru a Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni'r Môr (MEECE) a arweinir gan ORE Catapult.

Mae META a MEECE yn rhan o Ardol Forol Doc Penfro, sef prosiect cydweithredol a fydd yn datblygu canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer datblygu ynni'r môr yn Sir Benfro. Mae'r prosiect, a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, hefyd yn cynnwys Parth Arddangos Sir Benfro a gwaith uwchraddio seilwaith ym Mhorthladd Penfro.