Erbyn hyn, mae'r cwmni – sydd wedi'i benodi'n weithredwr yr arena ddigidol dan do sydd yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe – yn dweud y gall pobl yn Ne-orllewin Cymru ddisgwyl adloniant o'r ansawdd hwn yn y blynyddoedd i ddod.

Yr arena ddigidol dan do, a fydd yn cael ei hadeiladu wrth ymyl yr LC yng nghanol dinas Abertawe, yw un o nodweddion prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau sydd i'w ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn.

Roedd adolygiad annibynnol diweddar i'r Fargen Ddinesig wedi argymell bod y prosiect yn cael ei gymeradwyo'n syth.

Ymysg yr adloniant arall sydd naill ai'n digwydd nawr neu ar fin digwydd mewn lleoliadau ATG eraill y mae Les Miserables, Riverdance, The Lion King gan Disney, The Bodyguard ac ELO.

Dywedodd Stuart Beeby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp yn ATG: “Byddwn yn chwilio am enwau cyfarwydd y gallwn ddod â nhw i Abertawe i lenwi'r arena. Mae gennym gysylltiadau helaeth eisoes ag artistiaid rydym yn gweithio gyda nhw ar draws ein 49 o leoliadau, felly gall pobl edrych ymlaen at artistiaid fel Gary Barlow, A-ha, OMD, y Kaiser Chiefs, James, a'r Cortinas.

“Yn y byd comedi, mae pob enw sydd ar eich rhestr DVDs Nadolig yn perfformio - o Rhod Gilbert a Michael McIntyre i Katherine Ryan a Rob Brydon. Maen nhw i gyd yn ein lleoliadau nawr ac mae'r tocynnau'n gwerthu allan.

“Ond mae digwyddiadau eraill hefyd. Mae Strictly Come Dancing, Brian Cox a RuPaul's Drag Race, er enghraifft.

“A dweud y gwir, mae rhywbeth at ddant pawb.”

Mae Cyngor Abertawe wedi penodi Buckingham Group Contracting Ltd fel prif gontractwr ar gyfer cam un cynllun adfywio Canol Abertawe, sy'n cynnwys yr arena ddigidol dan do.

Bydd y prif waith adeiladu ar yr arena yn dechrau'r haf hwn, cyn yr agoriad yn 2021.

Mae plaza digidol y tu allan i'r arena hefyd yn rhan o'r cynllun.

Dywed Mr Beeby y bydd yr arena yn rhoi hwb i'r busnesau sy'n bodoli eisoes yng nghanol dinas Abertawe hefyd.

Dywedodd: “Mae'r arena yn ategu adfywiad canol dinas Abertawe.

“Mae angen i ni gynyddu'r amser mae pobl yn ei dreulio yng nghanol y ddinas, a'r profiadau gallant eu cael yno.

“Felly bydd arena o'r maint hwn, sy'n lleoliad amlbwrpas, yn creu'r holl brofiadau gwahanol hynny, a hefyd yn darparu lleoliad o safon uchel ar gyfer cyfarfodydd, arddangosfeydd a chynadleddau.

“Bydd rhywle lle gall pobl fwyta cyn hynny, gweld perfformiad gwych, a mwynhau diod ar ôl hynny, yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas ac yn eu hannog i aros yno am fwy o amser.”

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'n cael ei harwain gan bedwar Awdurdod Lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.