Seilwaith Digidol
Bydd y rhaglen Seilwaith digidol gwerth £55 miliwn o fudd i breswylwyr a busnesau ym mhob rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Amcangyfrifir y bydd y rhaglen werth £318 miliwn i'r economi ranbarthol yn y 15 mlynedd nesaf.
Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd y rhaglen Seilwaith Digidol yn:
- Sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad cystadleuol at gysylltedd ffibr llawn
- Paratoi'r ffordd er mwyn i'r rhanbarth elwa o arloesedd 5G a'r rhyngrwyd pethau, sy'n cynnwys cartrefi clyfar, gweithgynhyrchu clyfar, amaethyddiaeth glyfar a realiti rhithwir, yn ogystal â thechnoleg y gellir ei gwisgo a fydd yn cefnogi gofal iechyd, cymorth byw a sectorau eraill
- Canolbwyntio ar wella mynediad i fand eang yng nghymunedau gwledig y rhanbarth, gan ysgogi'r farchnad i greu cystadleuaeth rhwng darparwyr digidol er budd defnyddwyr.
Amcangyfrifir buddsoddiad mewnol o £30 miliwn yn ystod cyfnod o bum mlynedd o ran cyflawni'r rhaglen.
Statws: Achos busnes wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.