Pentre Awel

Bydd prosiect Pentre Awel a glustnodwyd ar gyfer Llanelli yn cynnwys cyfleusterau iechyd, addysg a busnes newydd ynghyd â chanolfan hamdden a phwll nofio newydd o'r radd flaenaf.

Ar safle 83 erw yn Ne Llanelli, Pentre Awel fydd y datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru.

Bydd Pentre Awel yn darparu cyfleusterau cyhoeddus, academaidd, busnes ac iechyd ar un safle i hybu cyflogaeth, addysg, darpariaeth hamdden, ymchwil a darpariaeth iechyd, a sgiliau a hyfforddiant.

Bwriedir i'r prosiect gynnwys cyfleusterau gofal integredig ac adsefydlu corfforol er mwyn galluogi'r gwaith o brofi a threialu technolegau gwyddor bywyd sydd â'r nod o wella byw'n annibynnol a byw â chymorth.

Bydd elfen canolfan hamdden y prosiect sy'n cael ei rhedeg gan y cyngor yn cynnwys campfa arloesol, pwll nofio 8 x 25 metr, pwll dysgwyr, stiwdios amlbwrpas a man chwarae dan do.

Yn ogystal â rhoi miliynau o bunnoedd i'r economi leol, bydd Pentre Awel hefyd yn creu ystod eang o gyfleoedd gwaith ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyffredinol.

Mae Pentre Awel yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau.

Mae'r cyngor yn gweithio gyda phartneriaid yn y gymuned i sicrhau bod y prosiect yn darparu ar gyfer yr anghenion o ran gwaith, iechyd a gofal a nodwyd ac a flaenoriaethwyd gan breswylwyr lleol drwy ymgynghori'n helaeth.

Bydd prosiect Pentre Awel hefyd yn cynnwys canolfan sgiliau sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, ynghyd â chanolfan darpariaeth glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaethol yn nes at adref a chyfleusterau ymchwil.

Bydd y prosiect ehangach hefyd yn cynnwys llety byw â chymorth, ynghyd â chartref nyrsio, gwesty, gofod ehangu i fusnesau, ac elfennau o'r farchnad agored a thai cymdeithasol a fforddiadwy. Bydd mannau awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden ar y safle yn elwa o olygfeydd ysblennydd ar draws Aber Llwchwr a Bae Caerfyrddin.

Statws: Achos busnes wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.