Mae rhaglen fuddsoddi a fydd yn trawsnewid Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe bellach wedi ailddechrau.

Mae'r gwaith adeiladu ar y prosiect gwerth £12 miliwn bellach wedi ailddechrau ar y safle, yn dilyn seibiant dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i helpu siopwyr a masnachwyr.

Mae Ffordd y Brenin yn cael ei thrawsnewid yn barc dinesig fel rhan o gynllun gan Gyngor Abertawe a fydd yn cynnwys ardaloedd cyhoeddus newydd, mwy o fannau gwyrdd, mwy o goed stryd a gwell llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Bydd y llwybr unffordd presennol â dwy lôn gerbyd hefyd yn newid yn ddwy ffordd ar Ffordd y Brenin a Stryd y Berllan yn ddiweddarach yn 2019.

Bydd siopau a safleoedd eraill yn parhau'n agored a hygyrch drwy gydol y gwaith gwella.

Mae pentref digidol 100,000 troedfeddi sgwâr ar gyfer busnesau technoleg ymhlith y nodweddion newydd a gynlluniwyd ar gyfer Ffordd y Brenin.

Mae'r pentref digidol hwn, sydd i'w gyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, wedi cael ei glustnodi ar gyfer hen safle clwb nos Oceana. Gan ddiwallu'r angen am ragor o safleoedd busnes o safon uchel yn y Ddinas-ranbarth, bydd y cyfleuster hefyd yn helpu i gadw talent ranbarthol ac chynhyrchu ar yr un pryd mwy o ymwelwyr a gwariant yng nghanol dinas Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Bydd trawsnewid Ffordd y Brenin yn gyrchfan sy'n ystyriol o bobl yn paratoi'r ffordd ar gyfer creu cannoedd o swyddi a mannau gwyrdd ar gyfer y ddinas. Dyma'r cam cyntaf o ran adfywio'r ddinas mewn modd a fydd o fudd i genedlaethau sydd i ddod."

Bydd parc bach ar ben Ffordd y Dywysoges ymhlith y nodweddion sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Ffordd y Brenin, gyda thua 200 o goed newydd yn cael eu plannu fel rhan o'r prosiect cyffredinol.

Mae'r newidiadau i Stryd y Berllan, Ffordd Alexandra, Stryd Christina, Grove Place,  a Stryd Craddock hefyd yn rhan o'r gwaith. Mae'r prosiect gwella Ffordd y Brenin yn cynnwys £4.5 miliwn o arian gan WEFO.

Mae'r prosiectau adfywio eraill yn Abertawe yn cynnwys arena dan do ddigidol 3,500-sedd ar safle maes parcio'r Ganolfan Hamdden (LC), sydd i'w gyllido'n  rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae'n fuddsoddiad mewn 11 o brosiectau mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ac mae'r Fargen Ddinesig, sydd i'w chyllido'n rhannol gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn amodol ar gymeradwyo'r achosion busnes.