Mae angen dod o hyd i gadeiryddion diwydiant ar gyfer clystyrau sy'n cynrychioli'r sectorau hyn i weithio'n agos gyda'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer De-Orllewin a Chanolbarth Cymru.

Bydd y gwaith hwn yn helpu'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol i archwilio beth yw'r anghenion llawn amser, rhan-amser a phrentisiaeth penodol ar gyfer sectorau hyn a sut y gall busnesau fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant yn ysgolion a cholegau'r rhanbarth.

Ymhlith y grwpiau clwstwr sector eraill sy'n cyfrannu at waith y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol mae adeiladu; iechyd a gofal cymdeithasol; gwasanaethau cyhoeddus; deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu; a thwristiaeth, hamdden ac adwerthu.

Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol: "Mae gwaith y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn bwysig ar gyfer adferiad y rhanbarth yn dilyn Covid-19 er mwyn sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion diwydiant, ac mae'r bartneriaeth hefyd yn arwain ar fenter sgiliau a thalentau fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

"Mae llais busnes yn allweddol i ddatblygu ein cynlluniau. Yn ogystal â chadeiryddion diwydiant ar gyfer ein grwpiau clwstwr yn y sector digidol, ynni, creadigol a gwasanaethau proffesiynol, byddem hefyd yn annog unrhyw fusnesau sy'n gweithio yn unrhyw un o'n sectorau grwpiau clwstwr i gysylltu os hoffent gyfrannu."

Amanda Lince, o Crosshands Home Services Ltd, yw Cadeirydd y grŵp clwstwr iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd: "Fel busnes bach a chanolig rwy'n gwybod pa mor hawdd yw canolbwyntio ar y materion sydd o'm blaen megis recriwtio a chadw staff, cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol, cyfraniadau cyflogwyr, pensiynau, a chostau eraill yn ymwneud â staff ac adnoddau.

"Ond ni fydd dim o hyn yn newid er gwell oni bai ein bod yn rhoi rhywfaint o'n sylw i'r pethau hynny sy'n effeithio ar y newidiadau yn ein sector. Byddwn yn annog busnesau eraill i ymuno â'r grŵp clwstwr a chael cymorth gan y rhai sydd mewn sefyllfa debyg. Fel un llais, gall hyn arwain at newid gwirioneddol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich busnes."

Edward Morgan, o Fwydydd Castell Howell, yw Cadeirydd y grŵp clwstwr rheoli bwyd a thir. Dywedodd: "Mae'n bwysig bod busnesau yng Nghymru yn cael cyfle i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am eu heriau gyda hyfforddiant, sgiliau a denu gweithwyr newydd i'r sector. Yn yr un modd, mae hefyd yn bwysig bod gwybodaeth am economi'r ardal a chynlluniau buddsoddi yn cael ei rhoi i fusnesau. Mae cyfarfodydd clwstwr y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn gyfleoedd i ymgysylltu'n aml, gan sicrhau bod llais diwydiant yn cael ei glywed."

Cysylltwch â Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, i gael rhagor o wybodaeth: JELewis@sirgar.gov.uk