Yn amodol ar gael cymeradwyaeth yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig ddydd Llun, 30 Gorffennaf, gofynnir am fynegiannau o ddiddordeb yn fuan gan arbenigwyr mewn nifer o sectorau.   

Bydd cynrychiolwyr o sectorau sy'n cynnwys arloesi digidol, sgiliau, ynni, gweithgynhyrchu, pobl ifanc, trafnidiaeth, datblygu lleol, adwerthu, bwyd a diodydd, twristiaeth, diwydiant trwm, a microfusnesau yn cael eu gwahodd i wneud cais.

Pan fydd angen, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynghori arweinwyr y Fargen Ddinesig gan gynnwys Bwrdd Strategaeth Economaidd o'r sector preifat a Chyd-bwyllgor sy'n gwneud penderfyniadau.

Un o argymhellion yr adolygiadau diweddar ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw penodi ymgynghorwyr arbenigol i helpu i'w chyflawni.

Dywedodd y Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor: "Rydym wedi derbyn yr holl argymhellion yn yr adolygiadau diweddar, sydd yn dangos bod partneriaid y Fargen Ddinesig yn benderfynol o'i chyflawni cyn gynted â phosibl.

"Mae'r Fargen Ddinesig, a fydd yn creu dros 9,000 o swyddi â chyflog da i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe, yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi hwb i'n ffyniant economaidd.

"Mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd wedi rhoi cyngor amhrisiadwy i'r Cyd-bwyllgor ers iddo gael ei sefydlu, ond bydd penodi ymgynghorwyr arbenigol yn cynnig hyd yn oed mwy o arbenigedd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y Fargen Ddinesig yn cael yr effaith fwyaf posibl er lles preswylwyr a busnesau ym mhob rhan o Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

"Rydym yn chwilio am ymgynghorwyr arbenigol mewn meysydd sy'n gysylltiedig â themâu'r Fargen Ddinesig, yn ogystal â sectorau megis datblygu lleol, trafnidiaeth a thwristiaeth, sydd wedi cael eu nodi fel meysydd allweddol ar gyfer gwelliant neu dwf yn Ne-orllewin Cymru.

Dan gadeiryddiaeth Ed Tomp - Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Valero UK, mae aelodau eraill o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn cynnwys Amanda Davies - Prif Weithredwr Grŵp Pobl, Nigel Short - Cadeirydd y Scarlets, James Davies - Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru, Chris Foxall - Cyfarwyddwr Ariannol Riversimple, a Simon Holt - sydd wedi ymddeol fel Oncolegydd Llawfeddygol Ymgynghorol.

Dywedodd Mr Tomp: "Rwy'n falch iawn o aelodaeth y Bwrdd Strategaeth Economaidd, sef grŵp amrywiol o arbenigwyr o'r sector preifat sy'n meddu ar lawer o gymwysterau da.

"Fodd bynnag, er mwyn gwella effaith y Fargen Ddinesig yn y blynyddoedd i ddod, byddwn yn annog mynegiannau o ddiddordeb yn y swyddi ymgynghorol gan weithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn unrhyw un o'r themâu sydd wedi'u nodi.

"Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfle gwych i fod yn rhan o raglen fuddsoddi a fydd yn gallu creu Dinas-ranbarth llawer mwy llewyrchus yn y blynyddoedd i ddod."

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad mawr mewn nifer o brosiectau trawsnewidiol ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Bydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.