Mae'r prif gontractwr Buckingham Group Contracting Ltd, sy'n gweithio ar y cyd â Chyngor Abertawe, am ddefnyddio arbenigedd lleol a rhanbarthol cymaint â phosib.

Mae 30 o becynnau gwaith ar gael, gyda chyfanswm gwerth dros £23 miliwn. Mae gwerth y pecynnau gwaith unigol yn dechrau o £10,000.

Maen nhw'n cynnwys: Is-gontractwyr mecanyddol a thrydanol ail haen - £12 miliwn; gwaith allanol, gan gynnwys gwaith brics, drysau, fframiau a gwydredd - £2 filiwn; dodrefnu a gorffeniadau mewnol, gan gynnwys waliau, lloriau a phlaster/render - £9 miliwn.

Bydd dadansoddiad llawn o'r rhain a'r pecynnau gwaith llai unigol ar gael mewn digwyddiad am ddim lle gellir cwrdd â'r prynwr ac ar wefan Busnes Cymru.

Cynhelir y digwyddiad gan Buckingham Group a'r cyngor mewn cydweithrediad â gwasanaeth Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru, CITB (Bwrdd Hyfforddiant Diwydiant Adeiladu) a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ardal SA1 Abertawe ar 11 Mawrth o 9am i 1pm.

Cynhelir cyfarfodydd un i un a drefnwyd ymlaen llaw; gellir cadw lle ar eu cyfer ymlaen llaw drwy Fusnes Cymru - https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/digwyddiad-cwrdd-ar-prynwr-2-buckingham-group/

Mae'r digwyddiad ar gyfer contractwyr sy'n gallu gwneud cynnig yn benodol ar gyfer y pecynnau a hysbysebir.

Bydd Cam Un Abertawe Ganolog yn cynnig arena ddigidol i 3,500 o bobl, parc arfordirol, pont arwyddocaol, mannau parcio ceir, cartrefi ac eiddo masnachol wedi'u creu ar safle allweddol yng nghanol y ddinas.

Mae'n cael ei ysgogi a'i ariannu gan y cyngor. Ariennir yr arena'n rhannol gan y Fargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn; mae Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru'n ariannu'r bont yn rhannol.