Ond nawr ei fod yn ôl yn ei famwlad, mae Mr Davies, cadeirydd gweithredol Industry Wales, yn helpu i gefnogi gwerth £1.3 biliwn o gynlluniau i roi hwb i economi de orllewin Cymru fel aelod o fwrdd strategaeth economaidd bargen ddinesig bae Abertawe.

Mae'r bwrdd strategaeth economaidd yn cynnwys arbenigwyr o'r sector preifat ym meysydd megis gweithgynhyrchu, tai, cyllid, ynni a gwyddorau bywyd, ac mae'n darparu arweiniad arbenigol i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig, sy'n gwneud penderfyniadau.

Ar ôl ennill gradd mewn peirianneg fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe, dechreuodd Mr Davies weithio yn 1986 fel peiriannydd dylunio yn Llanelli Radiators, ac fe brynodd y Grŵp Calsonic y cwmni hwn dair blynedd yn ddiweddarach.

Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y cwmni, roedd Mr Davies, cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Olchfa, wedi camu ymlaen i fod yn Uwch Is-lywydd Corfforaethol. Yn ogystal ag arolygu busnes y cwmni ledled y byd, roedd hefyd yn gyfrifol am is-adran cyfnewid gwres byd-eang y cwmni, a oedd yn werth tua 2.5 biliwn o ddoleri'r flwyddyn.

Ar ôl saith mlynedd o deithio'n ôl a blaen i Tokyo ac yna byw yno, dychwelodd Mr Davies i'r Deyrnas Unedig yn amser llawn yn 2017 i dderbyn ei rôl bresennol yn Industry Wales – sef corff hyd braich Llywodraeth Cymru sy'n cynrychioli safbwyntiau sectorau gweithgynhyrchu a pheirianneg.

Mae'r holl brofiadau hyn, meddai ef, yn golygu ei fod mewn sefyllfa dda i helpu i arwain y Fargen Ddinesig.

Dywedodd Mr. Davies: "Rwyf wedi gweithio'n helaeth mewn ymchwil a datblygu, ond hefyd yn y maes masnachol ynghyd â chynnal gweithrediadau ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd. Roedd hyn yn golygu gwneud llawer iawn o waith mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, boed hynny â'r byd academaidd, gweithio gyda llywodraethau neu bryniadau uno a thyfu'r cwmni mewn modd naturiol.

"Mae'r sgiliau hyn yn anochel yn helpu gyda fy rôl fel aelod o'r bwrdd strategaeth economaidd gan fod nifer o bartneriaid yn rhan o gyflawni'r Fargen Ddinesig hefyd, o awdurdodau lleol a byrddau iechyd i brifysgolion, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r sector preifat. Ble bynnag rydych chi'n mynd yn y byd, mae gan gyflogwyr yr un broblem, sef bwlch o ran sgiliau, ac felly dyna'r rheswm y mae nifer o brosiectau hwyluso yn ffurfio rhan o'r Fargen Ddinesig.

"Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau mawr i roi hwb i'n seilwaith digidol ar draws y rhanbarth, yn ogystal â menter sgiliau a thalent a fydd yn cynnig cyfleodd i bobl leol gael mynediad at y swyddi o ansawdd uchel sydd yn cael eu creu.

"Ynghyd â phrosiectau'r Fargen Ddinesig a fydd yn cael eu creu, bydd hyn yn arwain at ysbrydoli swyddi deniadol a fydd yn helpu pobl leol i wneud y defnydd gorau o'u sgiliau yn eu cymunedau eu hunain. Bydd hyn yn ei dro yn tyfu'r economi ranbarthol, yn denu hyd yn oed rhagor o fuddsoddi a swyddi, ac yn creu cymunedau y gallwn ni i gyd fod yn falch ohonynt."

Mae Mr Davies hefyd yn dweud y bydd prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe megis Ardal Forol Doc Penfro a Chartrefi yn Orsafoedd Pŵer yn ychwanegu at enw da Cymru am arloesi yn hanesyddol.

Dywedodd: "Rydym yn wlad sydd wedi cloddio ac wedi puro deunyddiau crai pur o'n tiroedd yn llwyddiannus ers canrifoedd. Mae'n rhan o'n treftadaeth a'n diwylliant, ond rydym nawr mewn man lle na ddylai fod yr unig ffordd ymlaen.

"Bydd rhai o brosiectau'r Fargen Ddinesig, boed datblygu ein diwydiant ynni'r môr neu adeiladu tai carbon niwtral, yn sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf yn gallu defnyddio ac ailddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy fel y môr, gwynt a haul, gan hefyd dynnu o adnoddau sydd wedi'u taflu'n flaenorol megis gwastraff i sicrhau bod modd ail-greu gwerth yn ein heconomi.

"Gall y Fargen Ddinesig wneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i'r ardal lle cefais fy magu.

"Gyda rôl y bwrdd strategaeth economaidd yn llunio ac yn dylanwadu ar y rhaglen, gallwn sicrhau y bydd gwaith o safon sydd wedi'i wreiddio ac wedi'i gynnal yn ein cymunedau yn parhau. Dyna sydd wir yn rhoi cyffro imi."

Cafodd Mr Davies, sy'n dad i ddau o blant ac sydd bellach yn byw yn ardal Castell-nedd, ei fagu yn Abertawe.

Dan gadeiryddiaeth Ed Tomp – rheolwr gyfarwyddwr ac is-lywydd Valero UK, mae aelodau eraill bwrdd strategaeth economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynnwys prif weithredwr Pobl Group, Amanda Davies; cadeirydd y Scarlets, Nigel Short; cadeirydd cyfarwyddwr ariannol Riversimple, Chris Foxall, a'r oncolegydd llawfeddygol ymgynghorol, Simon Holt, sydd wedi ymddeol bellach.

Mae'r Fargen Ddinesig yn werth £1.8 miliwn ac yn creu dros 9,000 o swyddi yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe yn y blynyddoedd i ddod.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.