Mae Simon Holt - oncolegydd llawfeddygol ymgynghorol yn Ysbyty'r Tywysog Phillip, Llanelli sydd wedi ymddeol yn ddiweddar - ymysg yr arbenigwyr sector preifat sy'n aelodau o Fwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae gan y bwrdd, sydd hefyd yn cynnwys Nigel Short sef Cadeirydd y Scarlets, y dasg o roi arweiniad i'r Cyd-bwyllgor sy'n gwneud penderfyniadau o ran y Fargen Ddinesig.

Mae pob aelod o'r bwrdd - nad ydynt yn cael eu talu am eu rolau - yn cynnig arbenigedd penodol yn y sectorau gwyddor bywyd, busnes, cyllid, tai, ynni a gweithgynhyrchu.

Dywedodd Mr Holt, un o raddedigion Prifysgol Caergrawnt a arweiniodd y tîm a oedd yn gyfrifol am ddatblygu ac agor uned gofal y fron Ysbyty’r Tywysog Philip, fod y Fargen Ddinesig yn gyfle i roi hwb ychwanegol i sector gwyddor bywyd Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Dywedodd: "Pan gafodd effaith bosibl y Fargen Ddinesig ar gyflogaeth leol ei hesbonio i mi - a chynnwys prosiect y Pentref Llesiant yn Llanelli, yn benodol - penderfynais wneud cais i fod yn aelod o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd.

“Nid oes amheuaeth gennyf y gallai'r Fargen Ddinesig fod yn hynod o fanteisiol i Dde-orllewin Cymru oherwydd ei gallu i ddenu hyd yn oed rhagor o swyddi a buddsoddiad gan y sector preifat.

"Ar ôl sicrhau buddsoddiad, gallwn ddatblygu ein sector gwyddor bywyd ymhellach byth gan fod Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cynnig cymaint o fanteision."

Gwyddorau bywyd yw un o themâu Bargen Ddinesig Bae Abertawe, y disgwylir iddi roi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol yn y blynyddoedd i ddod. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio ar fodel cyflawni arall ar gyfer prosiect y Pentref Llesiant, a fydd yn cyfuno llesiant, ymchwil meddygol a gwasanaethau hamdden ar safle integredig yn Llynnoedd Delta, Llanelli.

Mae Mr Holt yn parhau i reoli'r holl agweddau ymchwil ar uned gofal y fron Ysbyty’r Tywysog Philip, sy'n rhoi diagnosis o tua 600 o achosion newydd o ganser y flwyddyn. Mae'n darlithio o amgylch y byd hefyd ynghylch dadansoddi mynegiant genynnau yng nghanser y fron.

Dywed fod gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd rôl bwysig i'w chwarae. Dan gadeiryddiaeth Ed Tomp, Rheolwr Gyfarwyddwr ac Is-lywydd Valero UK, mae aelodau eraill y bwrdd yn cynnwys Amanda Davies, Prif Weithredwr Grŵp Pobl; James Davies, Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru; a Chris Foxall, Cyfarwyddwr Ariannol Riversimple.

Yn ogystal â'i arbenigedd yn y gwyddorau bywyd, dywed Mr Holt fod ei gysylltiadau cryf â phrifysgolion ac ymchwil yn ffactorau sy'n ei wneud yn gaffaeliaid i'r bwrdd.

Dywedodd Mr Holt, sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin: "Bydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yn helpu i nodi'r ffordd orau o gysylltu prosiectau'r Fargen Ddinesig â'i gilydd, ac yn ystyried sut y gall y Fargen Ddinesig fod yn gatalydd ar gyfer rhagor o dwf economaidd a buddsoddiad gan y sector preifat. Yna, gallai hyn droi'n swyddi i bobl leol.

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'r rhaglen fuddsoddi yn cael ei harwain gan bedwar Awdurdod Lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cyn symud i Ysbyty’r Tywysog Philip yn 1990, roedd Mr Holt yn llawfeddyg ymgynghorol yn yr Awyrlu Brenhinol, lle'r oedd hefyd yn rheoli ei uned oncoleg.