HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag Adrannau 30 ac 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y diwygiwyd 2018):

(1) O 29ain Mehefin 2022 tan 26ain Gorffennaf 2022 yn gynwysedig, rhwng 9.15yb a 4yp (Dydd Llun i Ddydd Gwener), ar ôl gwneud cais i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol y gall unrhyw un sydd â diddordeb, archwilio a gwneud copïau o gyfrifon Rhanbarth Ddinesig Bae Abertawe am y flwyddyn sy’n diweddu ar 31ain Mawrth 2022, ynghyd â’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau perthnasol sy’n ymwneud â’r cyfrifon.

(2) Ar 27ain Gorffennaf 2022, neu ar ôl hynny tan ddiwedd yr Archwiliad, bydd yr Archwilydd Apwyntiedig, Swyddfa Archwilio Cymru, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP (trwy Jason Blewitt ar jason.blewitt@archwilio.cymru) ar gais unrhyw etholydd llywodraeth leol yn yr ardal y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi, yn rhoi i’r etholydd neu i gynrychiolydd yr etholydd gyfle i’w holi am y cyfrifon, a gall y cyfryw etholydd neu ei gynrychiolydd ef/hi ymddangos gerbron yr Archwilydd i wneud gwrthwynebiadau:

      (a)   ynghylch unrhyw fater y gallai’r archwilydd weithredu yn ei gylch o dan adran 32 o’r Ddeddf, neu

      (b)   ynghylch unrhyw fater arall y gallai’r Archwilydd lunio adroddiad arno er budd y cyhoedd o dan adran 22 o’r Ddeddf.

(3) Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad oni bai fod yr Archwilydd wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig eisoes am y gwrthwynebiad hwnnw (trwy Jason Blewitt ar jason.blewitt@archwilio.cymru) ac am y rhesymau dros wneud y gwrthwynebiad, a bod copi o’r hysbysiad hwnnw yn cael ei anfon at y corff sy’n cyflwyno ei gyfrifon i’w harchwilio.

Ebost: CAccountancy@carmarthenshire.gov.uk

Ffôn: 01267 224137

Post: Carmarthenshire County Council, County Hall, Carmarthen, SA31 1JP

Rhanbarth Ddinesig Bae Abertawe Archwilio Cyfrifon 2021/22 (llyw.cymru)