Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno i ryddhau cyllid cychwynnol gwerth £18 miliwn i raglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn amodol ar gydymffurfio â'r telerau ac amodau.

Mae'r cyllid, sy'n rhoi cyfle i gyflawni'r Fargen Ddinesig gyfan gwerth £1.3 biliwn, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes ar gyfer Yr Egin a phrosiectau Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.

Gallai hefyd gael ei ddilyn gan fuddsoddiad pellach o £18 miliwn eleni ar gyfer prosiectau eraill yn y Fargen Ddinesig, yn amodol ar y rhanbarth yn bodloni'r telerau ac amodau.

Mae Chris Foxall, cyfarwyddwr ariannol Riversimple, sef gwneuthurwr ceir wedi'u pweru gan gell danwydd hydrogen, yn aelod o Fwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig, sy'n rhoi cyngor arbenigol y sector preifat i Gyd-Bwyllgor y Fargen Ddinesig sy'n gwneud penderfyniadau.

Dywedodd Mr Foxall: "Mae hyn yn newyddion gwych i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe yn ei gyfanrwydd, a bydd yn rhoi hyder i'r gymuned fusnes fod Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar y trywydd cywir i gyflwyno'r hwb economaidd gwerth £1.8 biliwn a ragwelir ar gyfer y 15 mlynedd nesaf.

"Fel Bwrdd Strategaeth Economaidd, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i fwrw ymlaen â'r gwaith cynllunio achosion busnes ar gyfer prosiectau eraill y Fargen Ddinesig er mwyn sicrhau rhagor o gyhoeddiadau cadarnhaol iawn tebyg i hwn yn y dyfodol agos."

Dywedodd Amanda Davies, cyd-aelod o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd, Prif Weithredwr Grŵp Pobl: "Mae'n hanfodol bod y Fargen Ddinesig yn gweithio er budd busnesau a chymunedau, felly mae'r newyddion am gyllid sydd ar y gweill gan y ddwy lywodraeth yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir.

"Yn ogystal â darparu cyfleusterau busnes a hamdden o'r radd flaenaf i'n trigolion ac entrepreneuriaid, bydd y Fargen Ddinesig hefyd yn helpu i gadw talent ifanc yn Ne-orllewin Cymru drwy greu miloedd o swyddi â chyflogau da i bobl leol."

Mae James Davies, Cadeirydd Gweithredol Industry Wales, hefyd yn aelod o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd, dan gadeiryddiaeth Ed Tomp, sef Rheolwr Gyfarwyddwr ac Is-lywydd Valero UK.

Dywedodd Mr Davies: "Mae'r Fargen Ddinesig a'r gyfran gyntaf o gyllid a gyhoeddwyd yn bwysig i lesiant economaidd y rhanbarth, ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio'n agos.

"Ond mae'r Fargen Ddinesig hefyd yn gyfle i godi proffil Bae Abertawe fel rhanbarth arloesol, sy'n croesawu busnesau, a fydd yn helpu i ddenu hyd yn oed rhagor o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol."

Mae prosiectau Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yn cynnwys arena dan do ddigidol o'r radd flaenaf gyda lle i 3,500. Gan elwa ar gysylltedd digidol o'r radd flaenaf, mae disgwyl i'r arena agor yn gynnar yn 2021. Bydd plaza digidol hefyd yn cael ei adeiladu y tu allan i'r arena, ynghyd â gweithiau celf digidol a nodweddion digidol eraill.

Mae agweddau eraill ar y prosiect yn Abertawe yn cynnwys pentref bocs 28,000 troedfedd sgwâr a chanolfan arloesi 64,000 troedfedd sgwâr ar gyfer busnesau newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gampws Glannau SA1.

Bydd pentref digidol 100,000 troedfedd sgwâr hefyd yn cael ei adeiladu ar Ffordd y Brenin, gan ddarparu mannau gweithio arloesol ar gyfer cwmnïau technoleg a chwmnïau sydd sy'n canolbwyntio ar elfennau digidol.

Mae'r Egin, sef clwstwr creadigol a digidol yng Nghaerfyrddin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn y dref. Mae ail gam y gwaith bellach wedi'i gynllunio, yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus sydd eisoes yn gartref i bencadlys newydd S4C a llawer o fusnesau eraill yn y sector creadigol.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Benfro – mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r rhaglen fuddsoddi yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.