Dywed aelodau sector preifat Bwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig y gwnânt bopeth yn eu gallu i helpu i gwblhau prosiectau Yr Egin ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.

Daw eu cefnogaeth ar ôl i adolygiad annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd werth £1.3 biliwn, ganfod bod yr achosion busnes ar gyfer y ddau brosiect hyn yn 'addas i'r diben’.

Mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn cynnwys arbenigwyr mewn themâu sy'n allweddol i'r Fargen Ddinesig megis ynni, gweithgynhyrchu, sgiliau, gwyddorau bywyd, a busnes.

Dan gadeiryddiaeth Ed Tomp, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Valero UK yn Sir Benfro, ymhlith aelodau sector preifat y bwrdd y mae Nigel Short, cadeirydd y Scarlets, Simon Holt, llawfeddyg ymgynghorol, ac Amanda Davies, Prif Weithredwr Pobl Group.

Hefyd ar y bwrdd y mae Chris Foxall, cyfarwyddwr cyllid y gwneuthurwr ceir o Gymru 'Riversimple', ynghyd â James Davies, Cadeirydd Gweithredol Industry Wales.

Yn ogystal ag adolygiad annibynnol, cwblhawyd adolygiad mewnol a gomisiynwyd gan Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig, i sicrhau trefniadau llywodraethu cadarn.

Gan gynghori'r Cyd-bwyllgor, mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn rhoi cyfeiriad strategol i'r Fargen Ddinesig. Mae'r swyddogaethau'n cynnwys goruchwylio llunio achosion busnes ar gyfer prosiectau a gwneud argymhellion i'w cymeradwyo.

Dywedodd Mr Tomp: “Mae'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn croesawu cyhoeddiad yr adolygiadau ynghylch y Fargen Ddinesig.

“Mae'r ddau yn cynnwys nifer o argymhellion a ddylai gyflymu'r gwaith ar y Fargen Ddinesig er budd trigolion a busnesau ar draws De-orllewin Cymru.

“Ymhlith yr argymhellion a gefnogir gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd y mae cymeradwyo'n syth brosiectau Yr Egin ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau, felly fe wnawn bopeth posibl i helpu â'r broses honno.

“Mae cam cyntaf 'Canolfan S4C Yr Egin' yn enghraifft wych o sut gall swyddfeydd a lleoedd rhwydweithio cwbl gyfoes gefnogi ein diwydiannau creadigol, tra bydd y prosiect yn Abertawe yn cyfuno adloniant o safon fyd-eang a chyfleusterau busnes o'r 21ain ganrif â'r seilwaith digidol diweddaraf.

“Byddai cymeradwyo'r achosion busnes hyn cyn gynted â phosibl yn helpu i gadw hyder y sector preifat yn y Fargen Ddinesig, ac yn dangos bod yr holl bartneriaid wedi ymrwymo i gydweithio er lles Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

“Yn y cyfamser, byddwn hefyd yn parhau i helpu â chynnydd achosion busnes ar gyfer y naw prosiect arall sydd i'w cyllido'n rhannol gan y Fargen Ddinesig, oherwydd mae potensial gan y rhaglen fuddsoddi hon i drawsnewid llesiant economaidd ein rhanbarth."

Dywedodd Chris Foxall: “Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi hwb cychwynnol i raglen datblygu economaidd ranbarthol gynaliadwy.

Mae'n fwy na buddsoddiad yn unig - mae'n ddechrau taith a fydd yn adeiladu momentwm, hyder a ffyniant ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Bydd y sylw eang a roddir gan bob sector i bob ardal yn y rhanbarth yn sgil y Fargen Ddinesig yn sicrhau bod yr effaith i'w theimlo gan bawb, a bydd y ddau brosiect cyntaf yn amlygu'r trawsnewidiad ffisegol ac economaidd y mae hen alw amdano.”

Bydd rhaglen fuddsoddi Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'n cael ei harwain gan y pedwar cyngor rhanbarthol – Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe – mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Rhagwelir y bydd y Fargen Ddinesig yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd da ac yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol yn y blynyddoedd i ddod.