Bydd ffigwr blaenllaw o'r sector ynni byd-eang yn chwarae rôl allweddol o ran ysgogi Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn ei blaen, sy'n werth £1.3 biliwn.

Mae Edward Tomp, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Valero UK ym Mhenfro, wedi cael ei ddewis fel yr ymgeisydd a ffefrir i fod yn gadeirydd Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Yn ystod ei yrfa yn y sector preifat yn rhyngwladol, sydd wedi ymestyn dros 30 mlynedd, mae Mr Tomp hefyd wedi cael nifer o swyddi uwch mewn cwmnïau wedi'u lleoli yn Unol Daleithiau America ac Awstralia.

Bydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yn cynrychioli'r gymuned ehangach, gan gynnwys y sector preifat a'r trydydd sector. Bydd yn gweithredu fel llais busnes, yn darparu arweiniad strategol i'r Fargen Ddinesig ac yn goruchwylio'r gwaith o ddatblygu achosion busnes ar gyfer pob prosiect.  Bydd gan y Bwrdd rôl hefyd o ran rhoi cyngor i'r Cyd-bwyllgor ynghylch cyfleoedd i gryfhau effaith y Fargen Ddinesig.

Yn amodol ar gytuno ar drefniadau llywodraethu'r Fargen Ddinesig, bydd Mr Tomp yn cael ei gadarnhau'n swyddogol yn gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd.

Dywedodd Mr Tomp, sy'n wreiddiol o Galiffornia: "Trwy bartneriaeth arloesol rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn hybu twf yn sylweddol yn y sectorau gan gynnwys menter ddigidol, gwyddorau bywyd a llesiant, gweithgynhyrchu clyfar a chynhyrchu ynni cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i adeiladu a gwella Dinas-ranbarth Bae Abertawe i bobl leol a busnesau lleol ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe wrth i nifer o brosiectau mawr ddod i'r amlwg yn ne-orllewin Cymru. Rwy'n hynod falch y byddaf yn chwarae rhan wrth ddarparu'r rhaglen hynod gyffrous hon, y buddsoddwyd yn helaeth ynddi, yn y blynyddoedd sydd i ddod.

"Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn hollbwysig gan y bydd yn creu miloedd o swyddi newydd sy'n talu'n dda, gan gefnogi busnesau ac entrepreneuriaid presennol drwy gynnig mwy o gyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi a chreu lleoedd o'r radd flaenaf ar gyfer swyddfeydd, clystyru, ymchwil a datblygu.

"Yn ogystal, bydd hyn yn arwain o bosibl at farchnadoedd allforio byd-eang newydd yn y Dinas-ranbarth, a bydd y Fargen Ddinesig yn gwella ein llesiant economaidd ac yn codi dyheadau, felly rydw i wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth y gallaf ei wneud i helpu i sicrhau ei bod yn cyflawni ei photensial anferthol."

Yn ogystal â'i swydd yn Valero UK, mae gan Mr Tomp brofiad o fod yn gadeirydd ac yn aelod o Fwrdd Corfforaeth Coleg Sir Benfro. Mae e hefyd wedi bod yn aelod o Grŵp Llywio Safon Uwch Cyngor Sir Benfro, Bwrdd Cynghori Ardal Fenter Aberdaugleddau, a Grŵp Cyflawni Strategol Ynni Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Arweiniol Dinas-ranbarth Bae Abertawe: "Mae pum maes allweddol yn perthyn i'r Fargen Ddinesig, ac mae Mr Tomp yn arddangos profiad sylweddol o ran tri ohonynt, sef ynni, gweithgynhyrchu a sgiliau.

"Mae hyn, ynghyd â'i brofiad hynod nodedig yn y sector preifat yn rhyngwladol ac yn ddiwydiannol, yn golygu mai ef yw'r person perffaith i gadeirio'r Bwrdd Strategaeth Economaidd.

"Bydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yn chwarae rôl allweddol o ran effaith y Fargen Ddinesig a'r modd y caiff ei rhoi ar waith yn y blynyddoedd sydd i ddod, felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi dewis rhywun cystal â Mr Tomp fel ein hymgeisydd a ffefrir."

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth y DU: "Mae gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd rôl allweddol i'w chwarae o ran y modd y mae'r Fargen yn cael ei datblygu a'i rhoi ar waith.

"Mae'n hanfodol mai arbenigedd y sector preifat sy'n gyrru'r prosiectau yn y Fargen Ddinesig yn eu blaen. Bydd Mr Tomp nid yn unig yn llais busnes yn y rhanbarth, ond bydd ei enw da yn rhyngwladol yn fantais wrth ddenu a sicrhau buddsoddiad newydd i'r rhanbarth."

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth: "Rwy'n croesawu penodiad Mr Tomp fel yr ymgeisydd a ffefrir a'r cyfoeth o brofiad y gall ei gynnig fel cadeirydd. Bydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yn chwarae rôl hanfodol wrth roi Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar waith o ran cynrychioli barn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Bydd y Bwrdd hefyd yn cefnogi'r dull mwy rhanbarthol sy'n ganolog i'n gweledigaeth o ran cael Cymru fwy ffyniannus, ac yn elfen allweddol o'n Cynllun Gweithredu Economaidd."

Yn ogystal â'r cadeirydd, mae'r broses o ddewis nifer o gynrychiolwyr eraill o'r sector preifat i fod ar y Bwrdd Strategaeth Economaidd hefyd yn mynd rhagddi. Bydd gwyddorau bywyd ac addysg bellach yn rhai o'r meysydd a fydd yn cael eu cynrychioli.