Ef yw Cadeirydd y Scarlets ers 2010, yn ogystal â bod yn brif gyfranddaliwr ar Ddistyllfa Penderyn, sy'n cynhyrchu wisgi a gwirodydd enwog wrth odre Bannau Brycheiniog.

Cafodd Mr Short ei eni a'i fagu yn Aberdâr, ond bellach mae'n byw yn Sir Gaerfyrddin.

Dros y blynyddoedd, mae hefyd wedi bod yn rheolwr-gyfarwyddwr ar fusnes gwasanaethau dur â thros 1,000 o staff, a oedd yn masnachu llawer yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop.

Yn ei rôl fel cyfarwyddwr Short Brothers Homes, mae meysydd eraill o brofiad Mr Short yn cynnwys adeiladu tai.

Bellach, mae hefyd yn un o chwe aelod o'r sector preifat sy'n helpu i gyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd gwerth £1.3 biliwn, fel rhan o Fwrdd Strategaeth Economaidd.

Mae swyddogaethau aelodau'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn cynnwys darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y Fargen Ddinesig, goruchwylio'r gwaith o lunio achosion busnes y prosiect a gwneud argymhellion i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig i'w cymeradwyo.

Yn ôl Mr Short, mae gan raglen fuddsoddi'r Fargen Ddinesig y potensial i drawsnewid economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ei chyfanrwydd, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Dywedodd Mr Short, sef un o'r bobl gyntaf i berchen ar gar trydan yng Nghymru: "Rwy'n cyrraedd pwynt yn fy mywyd erbyn hyn lle'r wyf wedi cael gyrfa resymol ym maes busnes, ac rwyf eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Dyma pam roedd gennyf ddiddordeb mewn bod yn aelod di-dâl o'r Bwrdd Strategaeth Economaidd. Credaf y bydd trylwyredd y sector preifat y gallwn ni ei ychwanegu at y broses yn bwysig dros gyfnod y Fargen Ddinesig.

"Mae fy nghymwysterau ar gyfer y rôl yn cynnwys arbenigedd busnes cyffredinol o ran y dadansoddiad ariannol manwl y byddech yn ei ddefnyddio wrth werthuso cynllun busnes. Mae'n bwysig iawn i mi ein bod ni'n gwario arian y trethdalwyr mewn modd effeithiol. Mae angen i ni sicrhau bod pob punt yn cael ei gwario'n ddoeth.

"Bydd gwahanol aelodau o'r bwrdd yn ychwanegu arbenigedd penodol, ond rwyf wedi gwneud llawer o waith yn y sector adnewyddadwy, gan gynnwys technoleg ffotofoltäig a bio-màs. Yn ogystal, mae gennyf lawer o brofiad yn y sectorau dur ac adeiladu tai."

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cyd-ariannu 11 prosiect mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Dros y 15 mlynedd nesaf, disgwylir i'r rhaglen fuddsoddi roi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol a chreu bron 10,000 o swyddi newydd â chyflogau da.

Dywedodd Mr Short: "Mae'r Fargen Ddinesig yn gyffrous iawn, ond hoffwn bwysleisio'n fawr mai prosiect hirdymor yw hwn. Mae wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau a chredaf fod pobl yn gyffrous iawn amdano, fel y dylent, ond mae 15 mlynedd yn amser hir. Bydd yr effaith economaidd a'r gwaith cynllunio sy'n rhan ohoni'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r rhanbarth yn ystod y cyfnod hwnnw, ond dyddiau cynnar yw hi ar hyn o bryd ac rydym yn gweithio i sicrhau bod y trefniadau llywodraethu, y partneriaethau a'r gwaith craffu yn iawn.

"Mae'r elfen alluogi gyffredinol o'r rhaglen fuddsoddi hon yn hollbwysig - mae'n cynnwys isadeiledd, technolegau newydd a'r amgylchedd rydym yn ei greu i alluogi busnesau bach a chanolig i ffynnu. Yn y pen draw, nhw yw'r pethau sy'n creu cyfoeth a swyddi yn ein heconomi."

Ymysg argymhellion adolygiad annibynnol diweddar o'r Fargen Ddinesig oedd cymeradwyo dau achos busnes prosiect cyn gynted â phosibl - datblygiad sector creadigol 'Yr Egin' yng Nghaerfyrddin, ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau sy'n cynnwys pentref digidol ar gyfer busnesau technoleg ac arena dan do ddigidol.

Dywedodd Mr Short, sy'n meddu ar radd er anrhydedd o Brifysgol Abertawe: "Rydym eisoes wedi ystyried nifer o brosiectau'n fanwl fel Bwrdd Strategaeth Economaidd, ond mae holl brosiectau'r Fargen Ddinesig yn gyffrous yn eu ffyrdd amrywiol.

"Rwy'n credu bod ansawdd yn fwy pwysig na rhuthro. Prosiectau mawr yw'r rhain ac mae'n rhaglen bwysig iawn, felly gofynnaf i bawb fod yn amyneddgar. Fodd bynnag, hoffem gwblhau'r ddau brosiectau yn eithaf cyflym - ac wedyn bydd y cyfleoedd buddsoddi'n dechrau."

Cadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yw Ed Tomp, Rheolwr-gyfarwyddwr ac Is-lywydd Valero UK yn Sir Benfro. Mae aelodau eraill o'r sector preifat yn cynnwys Amanda Davies - Prif Weithredwr Grŵp Pobl, James Davies - Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru, Chris Foxall - Cyfarwyddwr Ariannol Riversimple a Simon Holt - sydd edi ymddeol fel Oncolegydd Llawfeddygol Ymgynghorol.

Bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'n cael ei harwain gan bedwar Awdurdod Lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, y ddau fwrdd iechyd rhanbarthol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.