Mae’r ganolfan, a leolir ym Mharc Ynni Baglan, un o leoliadau blaenaf busnes a diwydiant yng Nghymru, yn defnyddio cynllun arloesol a defnydd rhagorol o ddeunyddiau er mwyn darparu adeilad cynaliadwy sy’n gadarnhaol o ran cynhyrchu ynni.

Morgan Sindall oedd prif gontractiwr y cyngor ar y prosiect, gan weithio gyda Grŵp IBI (pensaernïaeth), Hydrock (gwaith cynllunio peirianneg) a The Urbanists (gwasanaethau tirwedd pensaernïol).

Cafodd yr adeilad ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac mae'n rhan o'r Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae gan y ganolfan, sydd wrthi’n cael ei marchnata ar hyn o bryd, gyda llawer o ddiddordeb yn cael ei fynegi, ffocws ar arloesi mewn ystod o sectorau diwydiant gan gynnwys ynni, digidol, gwyddorau bywyd a gweithgareddau busnes arloesol tebyg eraill.

Cyhoeddwyd cyfanswm o 15 enillydd yn seremoni Gwobrau’r CEW 2022, dan arweiniad Rupert Moon, yn y Celtic Manor, Casnewydd ddydd Gwener 17 Mehefin. Ymysg prosiectau eraill a enillodd wobrau roedd Cyfnewidfa Fysiau newydd Merthyr Tudful a Chanolfan Bywyd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Llesiant, y Cynghorydd Jeremy Hurley: “Rydyn ni wrth ein bodd fod ein hadeilad ynni cadarnhaol wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol, a hoffem ddiolch i’r contractwyr oedd yn rhan o’r gwaith.

“Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, rydyn ni’n cydnabod fod taclo newid hinsawdd yn rhywbeth brys, ac mae gan yr adeilad hwn gyswllt cryf â’n strategaeth DARE (Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy).”

Ychwanegodd Rob Williams, cyfarwyddwr ardal gyda Morgan Sindall Construction: “Rydyn ni ar ben ein digon i ennill y wobr hon, ac rwy’n eithriadol falch o’r tîm cyfan a weithiodd ar Ganolfan Dechnoleg y Bae. Mae ennill y wobr Sero Net yn dyst i’n hymrwymiad i ddarparu atebion doeth sy’n lleihau carbon yn ein prosiectau, gan adael gwaddol cadarnhaol, parhaus yn ein cymunedau.

“Mae’r prosiect yn fuddsoddiad rhagorol i’r ardal fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe a hoffem ddiolch i’r cyngor a’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi, sydd wedi ein galluogi i ddarparu’r adeilad hwn. Bydd Canolfan Dechnoleg y Bae yn creu mwy o ynni nag y mae’n defnyddio, ac mae’n un o blith nifer fechan iawn o adeiladau net-gadarnhaol yn y rhanbarth, gan olygu ei fod yn brosiect enghreifftiol yr ydym ni’n falch iawn ohono.”

image