Bydd y gofod swyddfeydd a labordai gwerth £7.9m dros dri llawr, a leolir wrth ochr yr M4 ar Barc Ynni Baglan ym Mhort Talbot, yn gartref i unedau o wahanol feintiau ar gyfer cwmnïau sy’n dechrau, busnesau cartref a buddsoddwyr allanol sy’n chwilio am leoliad i sefydlu a thyfu’u busnes.

Bydd y ganolfan, sy’n cael ei hadeiladu gan y contractwyr Morgan Sindall Construction, yn cynnig 2,500 metr sgwâr o ofod defnydd cymysg ar gyfer gwaith swyddfa a labordy hyblyg yn ogystal ag ardal dderbynfa ac atriwm ysblennydd ar y llawr cyntaf.

Bydd cynllun arloesol a defnydd o ddeunyddiau, gan gynnwys paneli ffotofoltâig arbenigol a gynlluniwyd i edrych fel cladin, yn darparu adeilad cynaliadwy sy’n ynni-gadarnhaol. Mae’r cynllun hefyd yn golygu y gall ‘más thermal’ slabiau agored ‘precast’ y llawr storio a throsglwyddo gwres o’r adeilad, gan ddarparu dull cost-effeithiol o gynhesu.

Y tu fas bydd maes parcio newydd ar gyfer staff a defnyddwyr y swyddfeydd, ynghyd â sied feiciau i annog y defnydd o ddulliau teithio sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Bydd tirlunio hefyd yn digwydd i osod cymysgedd o wair a blodau gwyllt ar y safle. Wedi asesiad ecolegol, amserwyd y gwaith adeiladu i osgoi tarfu ar fywyd gwyllt lleol a sicrhau fod bioamrywiaeth y safle’n cael ei warchod.  

Cafodd y fenter ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy’r Rhaglen Annog Twf Cefnogi Arloesi a Charbon Isel gwerth £58.7m a gymeradwywyd yn ddiweddar, rhan o brosiect buddsoddi rhanbarthol £1.8biliwn Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot nifer cynyddol o ddatblygiadau ar y gweill sy’n cael eu datblygu i gefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, gan gynnwys SPECIFIC, (canolfan arloesi a gwybodaeth), y Ganolfan Ymchwil Hydrogen, Prosiect Systemau Ynni Integredig Hyblyg (FLEXIS) a Chanolfan Dechnoleg TWI (Cymru).

Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â’r byd academaidd (ar lefel addysg uwch a phellach) a mynediad iddo, gyda nifer o ganolfannau ymchwil arloesi sefydledig â chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol, yn arbenigo mewn hydrogen, systemau ynni, gwyddorau bywyd a gweithgynhyrchu; yn ymwneud ag ystod o feysydd o ddeunyddiau composit, gyriant, peirianneg deunyddiol, hyfforddi a sgiliau, metaleg a gorchuddion,  ynghyd â dulliau profi anninistriol (NDT) blaengar gyda thechnolegau archwilio sydd ar flaen y gad.

Mae Canolfan Dechnoleg y Bae yn cynnwys:  

Yn ôl Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, y Cynghorydd Annette Wingrave: “Rydyn ni ar fin cwblhau’r adeilad arloesol, hybrid hwn, y mae’i gynllun yn cysylltu’n berffaith â Strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) y cyngor ar gyfer dyfodol glanach, gwyrddach i bawb.

“Edrychwn ymlaen at weithio’n glos â busnesau newydd, busnesau lleol, buddsoddwyr o’r tu allan ac eraill sy’n dymuno symud i mewn i Ganolfan Dechnoleg y Bae.”

Gall cwmnïau a sefydliadau sydd â diddordeb yn y cyfleusterau sydd ar gael yng Nghanolfan Dechnoleg y Bae gofrestru’u diddordeb drwy anfon e-bost at business@npt.gov.uk  a gellir lawrlwytho llawlyfr yma: https://www.npt.gov.uk/media/16095/final-baglan-bay-innovation-centre-sales-brochure-stp-lr.pdf?v=20210818154952