Enillodd yr adeilad eiconig - a gafodd ei agor yn swyddogol yn hydref 2018 - y categori masnachol yn seremoni wobrwyo flynyddol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Bydd Yr Egin bellach yn cynrychioli Cymru yn seremoni wobrwyo RICS y DU, a gynhelir yn Llundain yn ddiweddarach eleni.

Yn ogystal ag ennill y categori masnachol, cafodd yr adeilad ei roi ar restr fer y categori dylunio trwy arloesedd.

Mae prosiect Yr Egin yn un o nifer yn Ne-orllewin Cymru sydd i'w gyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn.

Mae Yr Egin, a leolir ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin, yn ganolfan ddigidol a chreadigol sy'n cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu, mannau perfformio, a chaffi. Mae'r lleoliad hefyd yn cynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithdai, sgyrsiau a dangosiadau ffilm.

Dywedodd Carys Ifan, Rheolwr Yr Egin: "Mae Canolfan S4C Yr Egin yn dirnod cyfoes ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr mor fawreddog.

"Oherwydd ei ddyluniad ardderchog, mae'r adeilad yn cynnig amgylchedd delfrydol i ysbrydoli, datblygu a chynhyrchu prosiectau creadigol.

"Yr Egin yw'r cyswllt cyntaf ar gyfer croesbeillio rhwng y diwydiannau creadigol, y gynulleidfa a thalent o'r Brifysgol - ac mae wedi bod yn glir ers agor ein drysau yn yr hydref bod holl ddefnyddwyr Yr Egin yn meddwl ei fod yn lle egnïol ond hefyd yn ymlaciol - ac mae hyn i gyd oherwydd ei ddyluniad creadigol."

Roedd y tîm dylunio a oedd yn gyfrifol am Yr Egin yn cynnwys partneriaeth rhwng y Rural Office for Architecture (ROA) yng Nghaerfyrddin a BDP (Building Design Partnership), cwmni rhyngwladol o benseiri, peirianwyr a dylunwyr, gyda'r pensaer lleol Niall Maxwell yn arwain y prosiect.

Gyda S4C fel y prif denant, mae Yr Egin hefyd yn gartref i ystod o gwmnïau sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol gan gynnwys cyhoeddi amlgyfrwng a thechnoleg ddigidol; addysg ddigidol; cynhyrchu fideos a ffotograffiaeth; ôl-gynhyrchu; dylunio graffeg; cyfieithu ac isdeitlo, yn ogystal â rheolaeth ariannol ar gyfer y diwydiannau creadigol.  Maent yn cynnwys Boom, Gorilla, Atebol, Big Learning Company, Captain Jac, Asset Finance Solutions, Carlam, Highly, Lens 360, Moilin, Optimwm, a Trywydd.