Nod yr arolwg aeddfedrwydd digidol yw helpu Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i gael golwg ar yr economi ddigidol sy'n datblygu yng Nghymru.

Bydd y canlyniadau wedyn yn cael eu defnyddio i lywio sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi busnesau bach a chanolig yn y ffordd orau i ddatblygu ymhellach economi ddigidol y wlad.

Mae ystadegau yn dangos bod 52% o fusnesau bach a chanolig eisoes wedi defnyddio band eang cyflym iawn i gynyddu elw.

Mae prosiect seilwaith digidol a fydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd gwerth £1.3 biliwn, hefyd ar y gweill i roi hwb i gysylltedd digidol mewn cymunedau trefol a gwledig ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Benfro.

Mae arolwg aeddfedrwydd digidol yn cael ei gynnal gan Uned Ymchwil i Economi Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae cwestiynau'r arolwg yn canolbwyntio ar feysydd megis y math o gysylltiad rhyngrwyd, cyflymder lawrlwytho a lanlwytho, defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol a systemau ar gwmwl, sgiliau a chymorth TGCh, ac effaith busnes sydd wedi'i alluogi'n ddigidol ar broffidioldeb a chyflogaeth.

Ewch yma i lenwi'r arolwg.

Bydd sgôr aeddfedrwydd digidol ar gyfer pob busnes sy'n cwblhau'r arolwg yn cael ei ddarparu yn gynnar yn 2020.