Bydd disgrifiad swydd manwl nawr yn cael ei gwblhau cyn gosod hysbyseb ar gyfer ymgeiswyr.

Bydd y penodiad yn bodloni argymhelliad a nodir mewn dau adolygiad o'r Fargen Ddinesig gyda'r nod o gyflymu cynnydd yn y rhaglen fuddsoddi.

Hefyd yn ystod cyfarfod Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig cymeradwywyd dynodi swyddfa ranbarthol y Fargen Ddinesig yn swyddfa rheoli portffolio gydag arbenigedd mewn rheoli prosiectau mawr.

Bydd y cyfarwyddwr rhaglen annibynnol yn arwain y swyddfa rheoli portffolio.

Mae'r holl argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau yn cael eu datblygu.

Bydd Bwrdd Strategaeth Economaidd y Fargen Ddinesig, sy'n rhoi cyngor arbenigol y sector preifat i'r Cyd-bwyllgor, hefyd yn cael ei ehangu. Cyfrifoldeb aelodau'r Bwrdd fydd canolbwyntio ar y cyfleoedd y mae'r Fargen Ddinesig yn eu cyflwyno, gan fod yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach a thwf economaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Drwy dderbyn holl argymhellion yr adolygiad annibynnol a'r adolygiad mewnol i'r Fargen Ddinesig, mae'r Cyd-bwyllgor yn cydnabod yr angen am newid.

“Mae hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni prosiectau mawr y Fargen Ddinesig a sicrhau miloedd o swyddi sy'n talu'n dda cyn gynted â phosibl er budd trigolion a busnesau yn y De-orllewin.

“Yr hyn sy'n allweddol wrth symud ymlaen yw penodi cyfarwyddwr rhaglen annibynnol, a fydd yn brif gynghorydd i'r Cyd-bwyllgor a grwpiau llywodraethu eraill y Fargen Ddinesig ledled y Ddinas-ranbarth.

“Byddwn yn chwilio am weithiwr proffesiynol o'r radd flaenaf â phrofiad pendant i gyflawni'r rhaglen fuddsoddi arloesol hon ac i godi proffil y Fargen Ddinesig ledled y Ddinas-ranbarth, y DU a thramor.”

Disgwylir hefyd y bydd arian y Fargen Ddinesig ar gyfer dau brosiect ar gael ymhen ychydig wythnosau.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: “Rydym yn disgwyl cymeradwyaeth ar gyfer prosiectau Yr Egin ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau yn fuan iawn gan y ddwy lywodraeth.

“Mae gwaith cynllunio busnes manwl ar holl brosiectau eraill y Fargen Ddinesig hefyd yn parhau.”

Mae prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau yn cynnwys arena dan do ddigidol a phlaza digidol ar safle ger yr LC, pentref digidol ar Ffordd y Brenin ar gyfer busnesau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg a materion digidol, a phentref bocs a datblygiad Canolfan Arloesi ar gampws y Glannau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1.

Gyda S4C yn brif denant, mae cam cyntaf canolfan greadigol a digidol Yr Egin ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin eisoes ar agor, ac mae ail gam y gwaith hefyd wedi'i gynllunio.

Mae'r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mae werth £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol a bydd yn creu dros 9,000 o swyddi o ansawdd uchel. Mae’r Fargen Ddinesig yn cael ei harwain gan bedwar awdurdod lleol Dinas-ranbarth Bae Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.