Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'r maint a'r cwmpas hwn yng Nghymru gan ddwyn ynghyd ddatblygiadau arloesol ym maes gwyddorau bywyd, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli.

Yn dilyn cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gynharach eleni i achos busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £40miliwn, mae'r Cyngor wedi arwain proses dendro helaeth drwy gyfrwng Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru i gontractwyr gyflawni'r cynllun cyffrous hwn.

Bydd Parth Un yn elwa ar fuddsoddiad o tua £70miliwn o'r sector cyhoeddus a bydd yn cynnwys cyfleusterau addysg, busnes, ymchwil, hamdden ac iechyd i gynnig buddion cymdeithasol ac economaidd trawsnewidiol i bobl yn y rhanbarth.

Mae'r contract, sy'n un o'r ymarferion tendr uchaf ei werth y mae'r Cyngor erioed wedi ymgymryd ag ef, yn rhoi ffocws allweddol ar werth cymdeithasol i sicrhau y bydd pobl leol a busnesau yn elwa ar y manteision o'r cynllun uchelgeisiol.

Bydd Bouygoes UK nawr yn gweithio gyda'r Cyngor, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, ysgolion, colegau a phrifysgolion, yn ogystal â'r asiantaethau cyflogaeth lleol megis Gweithffyrdd a Chymunedau am Waith i ddarparu rhaglen gynhwysfawr o fanteision cymunedol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Bydd hyn yn golygu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, gan gynnwys swyddi ar gyfer pobl sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd, prentisiaethau, lleoliadau gwaith a chymorth cyflogaeth ehangach.

Bydd cymorth hefyd yn cael ei dargedu ar gefnogi'r rheiny sy'n ddi-waith yn y tymor hir neu heb fod yn weithgar yn economaidd, a mentrau wedi'u teilwra mewn cymunedau ac ysgolion lleol i ysbrydoli pobl i anelu am yrfaoedd perthnasol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bouygues UK bellach wedi dechrau ar y cyfnod cyn-adeiladu cychwynnol - sef cam o'r gwaith yr ymgymerir ag ef cyn dechrau ar y gwaith ar y safle y flwyddyn nesaf.

Yn ystod y cyfnod hwn, ymgymerir â gwaith dylunio pellach ynghyd â pharatoi a chyflwyno gwybodaeth gynllunio fanwl a gwaith paratoi ar y safle.

Bydd Gleeds, sef yr ymgynghorwyr eiddo ac adeiladu, yn rheoli'r contract adeiladu, gyda chymorth Arup yr arbenigwyr dylunio a chynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Bydd pobl yn elwa ar Bentre Awel am flynyddoedd mawr a bydd hyn yn dechrau gyda'r cyfnod adeiladu. Mae gan Bouygues UK enw da am adeiladu prosiectau cymhleth ac o'r maint a geir ym Mhentre Awel, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r cwmni i gyflawni'r prosiect hwn.

"Rwy'n hyderus bod y cwmni yn rhannu ein gweledigaeth a'n hymrwymiad o ran gwerth cymdeithasol ac wrth i ni barhau i adfer yn dilyn Covid mae'n hanfodol bod y cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a ddaw yn ystod cam adeiladu Pentre Awel o fudd i bobl Llanelli a Sir Gaerfyrddin.

"Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at fwrw ymlaen â chyflawni Parth Un y cynllun pwysig hwn, a gwneud cynnydd da ar y parthau eraill sy'n rhan o Bentre Awel."

Mae Bouygues UK yn arweinydd byd-eang gyda phortffolio helaeth o gynlluniau gwerth miliynau o bunnau lle mae arloesedd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod o ddatblygiadau o'r radd flaenaf ym maes gofal iechyd ac addysg, a datblygiadau masnachol a phreswyl, gan gynnwys Campws Arloesedd Caerdydd gwerth £120miliwn.

Dywedodd Simon Barnes, Cyfarwyddwr Cyn-adeiladu ar gyfer Bouygues UK: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein dewis fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer prosiect Pentre Awel, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Bydd ein profiad o weithio ar brosiectau mawr fel hyn yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.

“Rydym yn falch bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyd-fynd â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ddod ag effaith gymdeithasol gadarnhaol ochr yn ochr â'r prosiect hwn. Ynghyd â'n cadwyn gyflenwi, edrychwn ymlaen at ddod â gwerth parhaol i'r gymuned leol. Drwy ddefnyddio cyflogaeth leol a menter gymdeithasol, byddwn yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Drwy ymgysylltu â phartneriaethau dysgu a sgiliau rhanbarthol, byddwn hefyd yn helpu i ddarparu cyfleoedd dysgu a gyrfa. Bydd y prosiect hwn hefyd yn elwa o ddefnyddio cadwyn gyflenwi leol gan ganolbwyntio'n benodol ar fusnesau bach a chanolig.”

Mae prosiect cyffrous Pentre Awel yn cynnwys cyfleusterau gofal ac adsefydlu corfforol integredig, canolfan sgiliau llesiant a fydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, canolfan darpariaeth glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaeth a chanolfan hamdden o'r radd flaenaf; ynghyd â llecynnau yn yr awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer cerdded a beicio.

Mae gwesty, ystod o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, llety byw â chymorth a chartref nyrsio yn cael eu cynllunio ar gyfer camau diweddarach y cynllun.

Gydag addewid i greu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb i'r economi leol o tua £467miliwn, mae'n cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi cael ei lofnodi rhwng Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd i ddarparu cyrsiau ar y safle.

Mae Pentre Awel yn un o'r prosiectau o safon fyd-eang sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn yn fuddsoddiad na welwyd ei debyg o'r blaen a fydd yn trawsnewid bywydau pobl, yn creu cyfleoedd mawr a chynhyrchu dros 9,000 o swyddi dros 15 mlynedd.

Bydd y Fargen yn trawsnewid tirlun economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe, gan ddarparu hwb o £1.8miliwn o leiaf i'r economi leol ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Bydd yn dod â buddsoddiad sylweddol i seilwaith y rhanbarth drwy gyflawni naw prosiect o safon fyd eang ym meysydd digidol, ynni, gweithgynhyrchu clyfar, arloesi a gwyddor bywyd.

Mae cyfanswm y buddsoddiad yn cynnwys cyllid o £241 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, £330 miliwn o gyllid cyhoeddus arall a £581 miliwn gan y sector preifat.

image