Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi telerau ac amodau drafft sydd ynghlwm wrth ryddhau cam cyntaf cyllid y Fargen Ddinesig, sy'n seiliedig ar gymeradwyo prosiectau Yr Egin ac Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau.

Gallai'r arian hwn gael ei ryddhau yn ystod yr wythnosau nesaf, os bydd y sefydliadau sy'n bartneriaid yn y Fargen Ddinesig yn cymeradwyo'r telerau a'r amodau drafft.

Mae cam un prosiect Yr Egin eisoes wedi'i gwblhau ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a bydd ail gam y datblygiad ar y gweill cyn bo hir.

Yn Abertawe, mae prosiect y Fargen Ddinesig yn cynnwys arena ddigidol dan do, pentref digidol ar gyfer busnesau technoleg, a phentref blychau a datblygiad arloesol i fusnesau sy'n cychwyn arni.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig: "Mae hwn yn gam arall ymlaen yn yr ymgyrch i sicrhau cam cyntaf cyllid y Fargen Ddinesig, sy'n dangos y cynnydd enfawr sy'n cael ei wneud yn barhaus gan holl bartneriaid y Fargen Ddinesig y tu ôl i'r llenni.

"Ar ôl cytuno ar y telerau a'r amodau drafft, bydd yn garreg filltir bwysig ar gyfer rhaglen fuddsoddi a fydd yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol ac yn creu mwy na 9,000 o swyddi o safon i bobl leol yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae cam cyntaf llwyddiannus datblygiad Yr Egin eisoes ar waith yng Nghaerfyrddin, cafodd cam cyntaf Ardal Profi Ynni'r Môr ei lansio'n ddiweddar yn Sir Benfro, a bydd gwaith adeiladu ar arena ddigidol dan do Abertawe yn dechrau fis nesaf. Bydd cam cyntaf cyllid y Fargen Ddinesig yn helpu i ôl-gyllido peth o'r gwaith sydd eisoes wedi digwydd, gan roi hwb i raglen y Fargen Ddinesig yn ei chyfanrwydd.

"Mae hyn yn dangos yr effaith y mae'r Fargen Ddinesig yn ei chael yn barod ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ac mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud o ran nifer o brosiectau trawsnewidiol eraill hefyd."

Erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf mae'n bosibl y bydd £18 miliwn pellach o gyllid ar gyfer y Fargen Ddinesig wedi ei ryddhau gan y ddwy lywodraeth, ar yr amod bod rhagor o brosiectau'r Fargen Ddinesig wedi eu cymeradwyo erbyn hynny.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.