Mae'r cynlluniau'n cynnwys adeilad blaen gwydr 6 llawr ar safle Ffordd y Brenin lle roedd clwb nos Oceana. Gallai dros 600 o bobl gael eu cyflogi yno.

Mae disgwyl i'r datblygiad gael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau a fydd hefyd yn cynnwys arena dan do ar safle ger yr LC, ynghyd â phentref blychau a rhodfa arloesi ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1.

Mae cynlluniau'r pentref digidol yn cynnwys dau lawr o dan y ddaear a theras to â choed. Fe'i lluniwyd ar ôl cael adborth mewn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd.

Ymhlith y gwyrddni arall sy'n rhan o'r cynlluniau ar gyfer yr adeilad y mae to gwyrdd. Mae hefyd gynlluniau i greu cyswllt newydd rhwng Heol Rhydychen a Ffordd y Brenin.

Adeilad uwch-dechnoleg ac eco-gydnaws fydd hwn, a fydd yn cynnwys mannau gweithio hyblyg â chynlluniau agored megis balconïau yn edrych dros ganol y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Bydd y datblygiad hwn yn darparu ar gyfer busnesau digidol newydd a phresennol, gan ddod â nhw at ei gilydd mewn amgylchedd gwaith hyblyg, hynod fodern a fydd yn creu swyddi newydd a fydd yn arwain at fywiogrwydd ar gyfer canol y ddinas.

"Rydym eisoes yn siarad â busnesau posibl ac rydym yn hyderus o ran y galw.

"Hoffem ddiolch i'r cyhoedd a busnesau am eu cyfraniad hyd yn hyn - ac rydym yn gofyn iddynt roi adborth inni ar y cynlluniau newydd y maent eisoes wedi dylanwadu'n fawr arnynt."

Bellach, mae gan aelodau o'r cyhoedd gyfle i ddatgan eu barn am y cynlluniau drwy broses gynnar iawn a elwir yn ymgynghoriad cyn cyflwyno cais.

Gellir rhoi adborth yma hyd nes ddydd Gwener 21 Chwefror.

Unwaith eto, rydym wedi rhoi ystyriaeth i adborth gan y cyhoedd, a chaiff cais cynllunio llawn ei wneud.

Os ceir caniatâd cynllunio, gallai'r gwaith ddechrau y flwyddyn nesaf a bydd yr adeilad yn agor ddiwedd 2022.

Ymhlith y rhai sy'n helpu Cyngor Abertawe i gyflawni'r prosiect mae Cynllun Gorfodol Cymru, Arch00, Gleeds, The Urbanists, a Cushman a Wakefield.

Bellach mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau'r £18 miliwn cyntaf o gyllid y Fargen Ddinesig, yn seiliedig ar gymeradwyo dau gynllun gan gynnwys Ardal Ddigidol Dinas a Glannau Abertawe.