Mae cwmni DCW Insights o Abertawe wedi cael ei gydnabod fel Busnes Newydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe am ei ymdrechion rhagorol i dyfu’n llwyddiannus yn ystod helyntion y pandemig. Disgwylir i'w blatfform meddalwedd proptech drawsnewid y broses o brynu tir ar gyfer datblygu eiddo.

Roedd categori Busnes Newydd y Flwyddyn Bae Abertawe a’r Rhanbarth yn croesawu cynigion o Dde-orllewin Cymru gyfan. Llwyddodd pedwar cwmni newydd llwyddiannus i gyrraedd y rhestr fer gan gynnwys DCW Insights, Kitchens by Emma Reed, Temptag a The Secret Beach Bar & Kitchen.

Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans OBE, sylfaenydd y gwobrau “Mae cwmnïau newydd yn bwysig ar gyfer cynhyrchu ffyniant economaidd, cyfleoedd cyflogaeth ac arloesedd ac er 2016, mae Gwobrau Busnesau Newydd Cymru wedi dathlu'r cyfraniad anhygoel hwn. Hyd yn oed yn ystod  pandemig Covid-19, sefydlwyd dros 19,000 o gwmnïau newydd yng Nghymru yn 2020 ac edrychwn ymlaen at ddathlu eu cyflawniadau gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bob cymuned”.

Ychwanegodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe a rhan o'r panel beirniadu ar gyfer y wobr “Fel rhan o'r adfywio yr ydym yn ei gyflawni trwy'r naw prosiect yn y Fargen Ddinesig, mae gan fusnesau newydd rôl allweddol. Mae llawer o’n prosiectau wedi’u cynllunio i ddenu busnesau newydd a busnesau presennol sy'n tyfu a dod â swyddi i’r ardal. Rydym hefyd yn chwilio am gymysgedd dda o gwmnïau newydd yn ogystal â busnesau bach a chanolig a chwmnïau mwy i gyflawni ein huchelgais.”

DCW Insights a enillodd y wobr a rhannodd Dean Ward, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Grŵp DCW ychydig o’r hanes am sut mae ei gwmni wedi llwyddo i gyflawni cymaint dros y 12 mis diwethaf.

“Rwyf wedi bod yn gweithio yn y sector datblygu tai ers dros 18 mlynedd, ac yn deall yn iawn y gall elfennau o’r broses fod yn gorfforol iawn a chymryd llawer o amser. Rydym wedi datblygu platfform Meddalwedd Fel Gwasanaeth (SAAS) sy'n cyflymu'r broses diwydrwydd dyladwy o brynu tir ac eiddo ac rydym wedi darganfod bod ein platfform yn unigryw ac yn arloesol”.

Meddai Dean ymhellach, “Mae'r platfform wedi'i gynllunio i gyflymu'r broses o brynu tir ac eiddo 6-12 mis ac arbed costau o hyd at 30%. Rhagwelir y bydd gennym drosiant o oddeutu £350 miliwn a chyn hir, bydd gennym oddeutu 44,000 o ddeiliaid trwydded, sy'n amrywio o fanciau i awdurdodau lleol, datblygwyr a buddsoddwyr preifat. "

Ar ennill y wobr, ychwanegodd “Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod fel busnes newydd y flwyddyn Bae Abertawe a’r Rhanbarth gan ei fod yn dangos bod ein busnes yn mynd o nerth i nerth”.

Ychwanegodd Jonathan Burnes, a oedd yn rhan o’r panel beirniadu “A hithau'n gystadleuaeth gref, dewiswyd DCW Insights fel yr enillwyr cyffredinol gan ein bod yn teimlo mai nhw oedd â’r cyfle mwyaf i dyfu yn ein rhanbarth. Mae uchelgeisiau'r cwmni'n cefnogi amcanion tebyg i amcanion Bargen Ddinesig Bae Abertawe megis tyfu'r economi leol, creu swyddi a bydd hefyd yn helpu gyda materion ehangach fel datblygu tir a'r argyfwng tai ”.


Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe: “Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bob busnes ledled y Dinas-ranbarth a thu hwnt ers dechrau’r pandemig, felly mae DCW Insights a’r holl gwmnïau ar y rhestr fer yn haeddu clod enfawr am yr arloesedd maen nhw wedi’i ddangos yn wyneb adfyd.

 

“Mae buddsoddiad y Fargen Ddinesig - ar y cyd â chynlluniau mawr eraill - yn golygu bod ein rhanbarth mewn sefyllfa dda i wella’n gyflym yn sgil effaith economaidd Covid-19 a bydd nifer o brosiectau yn darparu lleoedd o ansawdd uchel i fusnesau arloesol cyn hir. Mae hyn yn bwysig oherwydd bydd yn cefnogi talent entrepreneuraidd y rhanbarth, wrth greu mwy o swyddi a chyfleoedd i bobl leol mewn sectorau rhanbarthol sy'n tyfu megis y diwydiannau digidol, technoleg, gwyddorau bywyd a chreadigol.”

Pan ofynnwyd iddo am y cymorth sydd ar gael i fusnesau newydd, dywedodd Dean Ward, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp DCW “Fel rhan o'n taith i lwyddiant rydym wedi manteisio ar lawer o adnoddau sydd ar gael i gwmnïau newydd yng Nghymru a byddwn yn annog busnesau eraill i wneud hynny. Mae Rhaglen Busnes Cymru - Rhaglen Cyflymu Twf a Rhaglen Cyflymu NatWest wedi bod o help maw i ni”

O ran dyfodol DCW Insights, dywedodd Dean “Fe wnaethon ni osod rhai targedau uchelgeisiol ond realistig i’n hunain ar gyfer y flwyddyn i ddod.   Yn ogystal â gobeithio cyflogi hyd at 200 o staff yn y grŵp, rydym wedi ymrwymo i helpu Abertawe a helpu Cymru i dyfu fel canolfan ragoriaeth ar gyfer busnes. Rydym hefyd yn gobeithio dechrau sefydliad dan arweiniad eiddo a fydd yn helpu busnesau newydd eraill, ac yn ei dro yn cyflwyno mwy o gyfleoedd a thwf i'r ardal.”

image